Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018-28

Published: 17/06/2019

Cymeradwywyd Cabinet Cyngor Sir y Fflint y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a’r llyfryn Polisi a Gweithdrefnau.

Mae'n rhaid i’r holl Awdurdodau Priffyrdd Lleol lunio Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) am gyfnod o 10 mlynedd. Mae’r ail CGHT yn asesu rhwydwaith 2018 ac mae’n gwerthuso cynnydd a wnaed ers 2008.  Mae’r cyd-destun polisi cyfredol (2018) yn cael ei archwilio, ardaloedd blaenoriaeth yn cael eu nodi ac mae Datganiad Gweithredu newydd yn cael ei gynnig.

Mae’r drafft terfynol hwn wedi’i ddiwygio yn dilyn ymgynghoriad tri mis statudol ac mae’n canolbwyntio ar dair prif adran; gwerthuso’r cynllun blaenorol; asesu cyflwr y rhwydwaith presennol; a datganiad gweithredu at y dyfodol dros oes y cynllun.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Rydw i’n croesawu bod y cynllun hwn wedi’i gwblhau ac yn diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad, sy’n ein galluogi ni i ddarparu rhwydwaith hawliau tramwy modern i gymunedau Sir y Fflint. O ganlyniad i’r Cynllun cyntaf, mae gennym lyfryn Polisi a Gweithdrefnau a fydd yn sicrhau dealltwriaeth eang a thryloywder ynghylch yr hyn mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud a sut mae'n ei wneud."