Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd!

Published: 17/06/2019

Cynhaliodd Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd - gwasanaeth di-dor newydd ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu – eu cynhadledd sefydlu yn Llandudno yn ddiweddar.

Yn y digwyddiad lansio, cyflwynwyd y Tîm Prosiect Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd newydd, a fydd yn gweithio mewn partneriaeth ar bum ffrwd gwaith y rhaglen:

  • Gweithio Integredig 
  • Datblygu'r Gweithlu
  • Technoleg Gynorthwyol
  • Comisiynu a Chaffael
  • Newid Cymunedol a Diwylliannol 

Yn y gynhadledd roedd pobl gydag anableddau dysgu, aelodau o’u teuluoedd a’u gofalwyr a chynrychiolwyr o’r gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, cymunedol, gwirfoddol a’r trydydd sector. Roedd y digwyddiad yn amlygu themâu allweddol sydd wedi’u hymgorffori yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Y rhain yw:

Llais a rheolaeth – rhoi’r unigolyn a’u hanghenion yn ganolog i’w gofal, a rhoi llais, a rheolaeth iddynt gyrraedd y deilliannau sy’n eu cynorthwyo i gyflawni lles.

Atal ac ymyrryd yn fuan – cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn y gymuned i leihau’r cynnydd mewn angen difrifol.

Lles – cefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chefnogaeth.

Cyd-gynhyrchu - annog unigolion i gymryd mwy o ran yn nyluniad a darpariaeth y gwasanaethau.

Mae Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd yn brosiect gweddnewid dwy flynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o sicrhau bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cydweithio’n well i gefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu. 

Cyngor Sir y Fflint yw awdurdod arweiniol y prosiect hwn a dechreuodd y rheolwr tîm, Kathryn Whitfield, yn ei swydd ym mis Mawrth.  Ers hynny, mae hi wedi penodi deg swyddog ar draws Gogledd Cymru i gefnogi’r prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae hwn yn brosiect hynod o gyffrous ac un o’i brif flaenoriaethau yw sefydlu cyfathrebiad effeithiol rhwng pobl sydd ag anableddau dysgu ac eraill.  Fel rhan o hyn, bydd y tîm yn datblygu ac yn darparu gwybodaeth hygyrch a chryno.  Mae’r tîm yn datblygu strategaeth gyfathrebu, bydd bwletinau rheolaidd, gwybodaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau rheolaidd ar gyfer y teuluoedd a budd-ddeiliaid amrywiol.” 

Learning Disabilities meeting 01.jpg

 

Learning Disabilities meeting 02.jpg

Learning Disabilities meeting 11.jpg

 

Learning Disabilities meeting 16.jpg
Learning Disabilities meeting 17.jpg         Learning Disabilities meeting 109.jpg