Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canmoliaeth i weithwyr y cyngor ar ôl tywydd garw

Published: 21/06/2019

Mae Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint wedi canmol gweithwyr y Cyngor ar ôl y tywydd garw yn yr ardal yr wythnos ddiwethaf.

Yn dilyn tri diwrnod o law trwm roedd llifogydd ar ffyrdd, dwr wedi llifo i mewn i dai a choed wedi disgyn. Roedd llawer o weithwyr y cyngor yn rhan o’r ymateb i’r llifogydd, gan weithio oriau maith mewn amodau erchyll.  Ail-glustnodwyd 150 o ddyddiau gweithredol o wasanaethau eraill i ymateb i ddigwyddiadau'n ymwneud â llifogydd.  

Rhoddodd ein gweithwyr 4,000 o fagiau tywod i drigolion a busnesau ac ymatebwyd i bron 350 cais unigol am gymorth yn ymwneud â 199 gwahanol eiddo, a chafodd pob un y gefnogaeth angenrheidiol.

Dioddefodd y rhwydwaith priffyrdd ddifrod sylweddol mewn sawl ardal o ganlyniad i'r llifogydd. Roedd hyn yn cynnwys llithriadau tir mawr, ffyrdd wedi’u tanseilio ac arwynebau ffyrdd wedi’u difrodi gan y llifogydd. Bydd y Cyngor yn ymweld â phob un o'r safleoedd hyn ac yn gwneud gwaith trwsio dros y misoedd i ddod.  

Yn y cyfamser, aeth gwaith dydd i ddydd y cyngor yn ei flaen gyda dim ond ychydig o darfu ar y gwasanaethau gwastraff cartref ac ailgylchu, gwasanaethau cludiant (ysgolion, cyhoeddus a gofal cymdeithasol oedolion) a gwasanaethau profedigaeth.

Daeth y tywydd garw a heriau yn ei sgil hefyd i’r Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cefnogi dros 70 o bobl fregus yn eu cartrefi.  Oherwydd y llifogydd difrifol roedd yn anodd i weithwyr gyrraedd at bobl oedd angen help.  Er gwaethaf hyn, dangosodd y gweithwyr eu dyfeisgarwch a’u penderfyniad ac fe wnaethant lwyddo i gynnal y gwasanaeth ar gyfer pawb yn ddiwahân.   Rhannodd y gweithwyr gerbydau gan gefnogi ei gilydd yn yr amodau gyrru anodd.

Arhosodd yr holl adeiladau gofal preswyl a gofal ychwanegol ar agor a chynigiwyd gweithgareddau dan do ychwanegol i bobl a benderfynodd aros yn ddiogel yn eu cartrefi.

Estynnodd y Ganolfan Gyswllt ei horiau agor gan gymryd dros 1,100 o alwadau rhwng dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts: 

“Dros gyfnod o dywydd erchyll pan ddisgynnodd lefel ddigynsail o law mewn ychydig iawn o amser, rhoddodd y Cyngor ymateb rhagorol ochr yn ochr â'i bartneriaid yn y gwasanaeth tân, yr heddlu a'r cwmnïau gwasanaethau.

“Gan weithio mewn amodau anodd, brwydrodd gweithwyr y cyngor yn erbyn yr elfennau i symud coed wedi disgyn, ailagor ffyrdd, clirio ceuffosydd, helpu mewn cartrefi lle'r oedd dwr wedi mynd i mewn a symud adnoddau i'r mannau lle'r oedd fwyaf o'u hangen.

“Hoffwn ddiolch i holl weithwyr y cyngor a oedd yn rhan o'r ymdrech anhygoel hon.  Rwy’n siwr fy mod yn siarad ar ran yr holl gynghorwyr wrth ddweud fod pawb cysylltiedig wedi rhoi ymateb aruthrol o dda.”

Meddai’r Prif Weithredwr, Colin Everett, a oedd yn gyfrifol am gydlynu ymateb y Cyngor: 

“Rwyf eisiau diolch ar ran tîm y Prif Swyddogion i’n gweithwyr ymroddgar am eu gwytnwch a’u hymrwymiad yn ystod y cyfnod hwn o dywydd garw eithafol. Fe wnaeth y rhai hynny a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â chynnal gwasanaethau a helpu pobl fregus waith hollbwysig dan amgylchiadau heriol dros ben.

“Yn ystod cyfnodau anodd fel hyn gellir gweld y Cyngor a’i bobl ar eu gorau ac mae llawer ohonoch wedi gwneud gwaith amhrisiadwy yn eich gwasanaethau a'ch cymunedau."  

Roedd Cyngor Sir y Fflint yn rhan o ymateb amlasiantaeth drwy gydol y cyfnod.  

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y cafodd Sir y Fflint deirgwaith yn fwy o law nag sydd fel arfer yn disgyn yn ystod mis Mehefin dros gyfnod o ddim ond 72 awr.