Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfle i Hwb Cyfle

Published: 24/06/2019

Bydd y Ganolfan Ddydd a Chymunedol newydd ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu yn Sir y Fflint, ‘Hwb Cyfle’ yn agor ei drysau ddydd Llun, 24 Mehefin. 

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud buddsoddiad sylweddol o dros £4 miliwn i ddarparu’r cyfleuster pwrpasol angenrheidiol hwn, a fydd yn disodli’r ganolfan ddydd bresennol yng Nglanrafon, Queensferry.  

Bydd pobl leol yn gallu mwynhau'r adeilad modern gyda gweithgareddau a gweithdai, ystafelloedd synhwyraidd a chyfleusterau gofal personol gwych. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda’n partner yn y sector gwirfoddol, HFT, i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i ddatblygu eu sgiliau a chynyddu eu hannibyniaeth.

Bydd y caffi a’r ardd synhwyraidd fywiog yn rhoi cyfle i’r gymuned ehangach ddefnyddio'r cyfleusterau cymunedol ardderchog yn y ganolfan, ac yn sicrhau bod Hwb Cyfle yn ased allweddol yn y gymuned leol. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Dyma ddiwrnod cyffrous i Sir y Fflint sydd, ynghyd â'n partneriaid, yn gweithio'n galed i drawsnewid gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi buddsoddi yn nyfodol y gwasanaeth allweddol hwn ac wedi galluogi i’r cyfleusterau modern hyn ddod i fodolaeth.”

 

June 2019 group photo.jpg      DJI_0003.jpg