Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith i ddechrau ar welliannau i’r ysgol

Published: 24/06/2019

Mae gwelliannau i ysgol gynradd yn Sir y Fflint wedi symud cam yn agosach.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi y bydd gwaith yn dechrau ar Ysgol Glan Aber, Bagillt ar 15 Gorffennaf. 

Bydd Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi dros £2.3m i drawsnewid Ysgol Glan Aber yn ysgol sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae hyn yn cynnwys £1.3m o nawdd Llywodraeth Cymru i ostwng maint dosbarthiadau babanod trwy greu ystafell ddosbarth ychwanegol, a fydd yn caniatáu’r athrawon roi mwy o amser a sylw unigol i bob un o’u disgyblion.  Bydd y nawdd hefyd yn darparu neuadd newydd a chyfleusterau bwyta.

Mae’r Cyngor wedi penodi cwmni lleol Kier Construction, a leolir yn Wrecsam i ymgymryd â’r gwaith gwella hwn.  Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru a rhaglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor.    

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Dyma fuddsoddiad pwysig iawn i Ysgol Gan Aber, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i ddiogelu nawdd i barhau i wella a diweddaru ein hysgolion.  Bydd y cyfleusterau modern hyn ar gyfer ein pobl ifanc a’r gymuned ehangach yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig newydd i’n plant ysgol.”  

Dywedodd Peter Commins, rheolwr gyfarwyddwr Kier Regional Building North West:

"Rydym yn falch iawn o barhau ein perthynas gyda Sir y Fflint, ac yn edrych ymlaen yn arw at ddechrau ar y safle yn Ysgol Glan Aber. Bydd y gwelliannau hyn yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu modern i staff a disgyblion yr ysgol am flynyddoedd i ddod." 

Ysgol Glan Aber 01.jpg