Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cystadleuaeth Youth Speaks

Published: 16/12/2014

Yn ddiweddar bu myfyrwyr o ysgolion uwchradd ar draws Sir y Fflint yn cymryd rhan yn rownd derfynol sirol cystadleuaeth flynyddol Youth Speaks – sef cystadleuaeth siarad cyhoeddus i ganfod pa un o ysgolion y Deyrnas Unedig sydd âr myfyrwyr âr sgiliau argyhoeddi gorau ac syn gallu mynegi eu safbwyntiau’n glir ac yn gadarnhaol. Caiff y gystadleuaeth hon ei chynnal gan Glwb Rotari’r Wyddgrug ar y cyd ag Adran Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir y Fflint. Cafodd y rownd derfynol ei chynnal yng Ngwesty Beaufort Park, New Brighton, yr Wyddgrug, ller oedd disgyblion o Ysgolion Uwchradd y Fflint, Treffynnon, Argoed, Castell Alun ac Ysgol Alun yr Wyddgrug yn mynegi eu safbwyntiau ynglyn ag ystod eang o bynciau. Ysgol Uwchradd Treffynnon gafodd y clod yn y categori canolraddol (ar gyfer disgyblion 11 i 13 oed), tra mai Ysgol Uwchradd Argoed enillodd y categori uwch (14 i 17 oed). Bydd yr enillwyr yn cynrychioli Sir y Fflint yng nghystadleuaeth y Rotari ar lefel dosbarth– sef ardal o ganolbarth Cymru hyd at ogledd afon Merswy – a bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Glyndwr ar 6 Mawrth 2015. Cyflwynwyd y gwobrau i’r ysgolion buddugol gan Lywydd y Rotari, Mr Leslie Butt. Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg, docynnau ir holl fyfyrwyr syn cystadlu. Dywedodd: “Llongyfarchiadau ir holl ddisgyblion oedd yn cymryd rhan, ac ir enillwyr yn arbennig. Roedd safon y siarad cyhoeddus yn ardderchog ac roedd y beirniaid hefyd yn cydnabod safon uchel y rhai ddaeth yn agos i’r brig eleni.” “Dyma’r unfed flwyddyn ar bymtheg i Glwb y Rotari gynnal y gystadleuaeth Youth Speaks ac, os bydd ein hysgolion lleol ni’n llwyddiannus yn y rownd nesaf, mi fyddan nhw’n cystadlu yn erbyn ysgolion eraill o bob rhan o Ogledd Orllewin Prydain, cyn herio timau o Loegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru yn y rownd derfynol fawreddog. ‘Dan ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y gystadleuaeth ar lefel dosbarth ym mis Mawrth. Dywedodd Llywydd y Rotari, Mr Leslie Butt, Mi gafon ni ein plesio gan yr amrywiaeth o bynciau a ddewiswyd gan y myfyrwyr, gan gynnwys y pynciau buddugol ‘Do Wild Animals Benefit From Being Kept in Captivity?’ a ‘Misguided Youth.’ Roedden nhw wedi ymchwilio i’w pynciau’n drwyadl ac yn cyflwyno gyda dawn ac argyhoeddiad. Mae angen llongyfarch pob un or myfyrwyr, a’u hathrawon au rhieni am gyrraedd safon mor uchel. Nodyn i olygyddion Llun 0633: Y Cynghorydd Chris Bithell yn cyflwyno’r Tlws Canolradd i Ysgol Uwchradd Treffynnon. Or chwith ir dde: Emma Lindsay, Lowri Kadelka-Williams a George Evans. 0635: Cyflwyno’r Tlws Uwchradd i Ysgol Uwchradd Argoed. Or chwith ir dde: Y Cynghorydd Chris Bithell, John Lamont, Aled Burt ac Emma Pryce. Sefydlwyd Clwb Rotari’r Wyddgrug yn 1936, ac maen rhan o gymuned o filoedd o Glybiau Rotari eraill sy’n rhan o Sefydliad y Rotari ledled y byd, sydd, wedi can mlynedd o fodolaeth, yn darparu cymorth a chyfle gwasanaethu i gymunedau yn lleol ac yn rhyngwladol. Arwyddair y Rotari yw Service above Self, ac mae a wnelo’r Rotari â nifer o brosiectau dyngarol ar lefel leol a rhyngwladol. Yn rhyngwladol, mae’r Rotari wedi ymrwymo i waredu Polio o’r byd yn y blynyddoedd nesaf ac i ddarparu help a chefnogaeth i gymunedau yn y trydydd byd - gan gynnwys cynnig cymorth mewn cyfnod o drychineb. Ar lefel leol, mae’r Rotari’n darparu cefnogaeth i elusennau lleol a grwpiau dan anfantais. Mae’r Rotari hefyd yn hyrwyddo cystadlaethau ieuenctid lleol gan gynnwys Young Chef, Rotary Youth Leadership Award a chystadleuaeth siarad cyhoeddus “Youth Speaks. Yn y blynyddoedd diwethaf bu gan Glwb Rotari’r Wyddgrug gynrychiolwyr yn rownd derfynol genedlaethol cystadlaethau “Young Chef” a Youth Speaks.