Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safonau Masnach Sir y Fflint yn llwyddiannus mewn erlyniad eto

Published: 27/06/2019

Yr wythnos ddiwethaf bu i James Challenger, The Quarter, Egerton Street, Caer bledio’n euog am gynllwynio.  

Roedd Challenger yn gweithio i Emergency Support Services yn Shotton, ac roedd yn galw busnesau yn ddiwahoddiad yn honni ei fod yn lansio ymgyrch i godi arian ar gyfer y gwasanaethau brys.  Roedd yn honni’n ffug eu bod yn cyfrannu cyfran sylweddol o'r arian yr oeddynt yn gael gan gwsmeriaid yn hysbysebu i'r gwasanaethau brys.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry bod hwn yn gynllwyn soffistigedig a bod Challenger wedi chwarae rôl allweddol wrth hyfforddi eraill yn y busnes, roedd hefyd wedi gwerthu seithfed ran o’r hysbysebion a werthwyd.  Cafodd ei ddedfrydu i garchar am 18 mis, dedfryd ohiriedig am 2 flynedd, cafodd ei orchymyn i gyflawni 200 awr o waith di-dâl ac i dalu £3000 tuag at gostau’r ymchwiliad.

Roedd hwn yn ymchwiliad mawr gan y Tîm Ymchwiliadau Safonau Masnach Cyngor Sir Y Fflint a’r Tîm Ymchwiliad Rhanbarthol Cymru a ddechreuodd yn 2013, pan weithredwyd gwarant ar gyfer eiddo Emergency Support Services.  Bu i naw o bobl fynd gerbron y llys, a chafwyd dau yn ddieuog, bu i’r gweddill gael dedfrydau cronedig a oedd yn dod i ddedfrydau carchar am dair mlynedd a hanner ar ddeg, naw a hanner a gafodd eu gohirio am 2 flynedd, 1,300 o oriau gwaith di-dâl, a £15,500 i dalu am ein costau o’u pocedi eu hunain.  Yn ogystal, ac yn bwysicach oll, cafodd y cynllwyn soffistigedig a wnaethpwyd i dwyllo arian gan fusnesau bach ei gau i lawr.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

 “Roedd hwn yn gynllwyn difrifol a oedd yn defnyddio enw da’r gwasanaethau brys, ac wedi anelu i gymryd arian gan nifer o fusnesau bach.  Mae gwaith da y Tîm Ymchwiliadau Safonau Masnach Sir Y Fflint wedi cau’r cynllwyn hwn, ac mae’r dedfrydau a roddwyd gan y llys yn dangos i eraill na fydd unrhyw fusnes fel hyn yn cael ei oddef yma.”

Dywedodd Richard Powell, Arweinydd Tîm Ymchwiliadau Safonau Masnach: 

 “Cymerodd 3 blynedd i gyflawni’r ymchwiliad a bu i nifer o swyddogion ymchwiliad dreulio oriau yn gweithio’n galed ar achos cymhleth gan ddefnyddio technegau ymchwilio na ddefnyddiwyd o'r blaen.  Yn y pen draw, mae’n rhoi boddhad i ni bod y llysoedd wedi gweld y cynllwyn ac wedi rhoi dedfrydau a oedd yn adlewyrchu eu difrifoldeb.”