Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant siop dros dro

Published: 02/07/2019

Mae siop dros dro a sefydlwyd yn ddiweddar yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Syniad Martin Evans, rheolwr gyfarwyddwr Rhwydwaith Busnesau Bach Sir y Fflint (FSBN) oedd y siop ym Mwcle. Mae’r FSBN yn rhan o Rwydwaith Busnes ledled y DU sy’n cefnogi ac yn hybu busnesau bach drwy eu helpu i dyfu ac ehangu yn lleol ac yn genedlaethol, a hynny drwy rwydweithio digidol a strategaethau marchnata cymdeithasol, lleol a symudol.

Sefydlwyd y siop dros dro mewn siop wag yng nghanolfan siopa Bwcle, ac mae’n gosod lle i hyd at ddeg o siopau ar y tro.   Mae hyn yn galluogi busnesau bach sy’n cael trafferth fforddio trethi, rhenti a chontractau hirdymor y stryd fawr, i agor yn y dref. Mae hynny yn ei dro'n helpu gwyrdroi'r duedd o gau siopau ar y stryd fawr ac yn adfywio canol y dref.  Yr artist lleol, Natalie Griffiths, sy’n gyfrifol am y ffenestr siop ddisglair.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’r fenter hon yn ffordd wych o ddod â busnesau bach yn ôl i’r stryd fawr.  Nid yn unig y mae FSBN yn helpu busnesau lleol, maen nhw hefyd yn cefnogi myfyrwyr fel Sarah Douce, sy’n hyfforddi i fod yn ffotograffydd yng Ngholeg Cambria. Mae Sarah yn helpu drwy dynnu lluniau’r cynnyrch i’w defnyddio wedyn ar wefannau ac yn y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r siop.

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r fenter hon ac rwy’n falch o glywed fod cynghorau tref eraill yn Sir y Fflint yn cysylltu â Martin i gychwyn gwneud yr un peth yn eu trefi nhw.  Mae’r siop yn ddisglair ac yn olau ac yn ddeniadol iawn – mae’r lle’n brysur ac yn llawn bywyd ac yn hwb go iawn i ganol y dref.”

Meddai Martin:

“Rydym yn gweithio gyda’r cyngor tref a busnesau yn ogystal â’r gymuned i ganfod beth mae pobl leol eisiau ei weld yn ôl ar eu stryd fawr.  Rydym wedi derbyn llawer o awgrymiadau a syniadau, gan gynnwys stondin ffrwythau a llysiau.  Rydym hefyd yn gweithio gyda’r asiantwyr masnachol Mason Owen.  Ein nod yn y pen draw yw canfod rhywun i feddiannu’r eiddo ar gontract tymor hwy gyda busnes neu fusnesau y bydd cymuned Bwcle yn eu defnyddio.

“Hanfod y syniad yw y gall busnesau bach rentu lle am ddiwrnod neu am nifer o ddiwrnodau.  Gallant ddefnyddio’r lle ar gyfer pob math o bethau.  Hyd yma, rydym wedi gweld arddangosiadau coginio, arddangosiad gosod blodau gan Vivaldi Flowers, mae Trevor Blackburn wedi dod â’i wydd i ddangos sut i wehyddu sgarffiau ac rydym wedi cynnal diwrnod gemau bwrdd – a ddenodd dros 30 o bobl!  Mae hyn yn dangos pa mor amlbwrpas y gall y lle fod!

“Heddiw, mae gennym ni Trasmundi Glass, Shaz's Shabby CHIC, Gemwaith Created for You, Siop Ddillad Plant Cowboys and Angels a Plant Creations, i gyd yn gwneud busnes da.”

Meddai Annemarie Sharp o Cowboys and Angels:

“Roeddwn i'n cadw siop am saith mlynedd yn West Kirby, ond bu iddi gau ym mis Chwefror.  Roeddwn i wir yn hiraethu am y siop ac, ar hap, rhoddwyd fi mewn cysylltiad â Martin ac fe gychwynnais i werthu eto yn y fan yma.  Fe wnes i 3 diwrnod yr wythnos ddiwethaf a 2 yr wythnos yma, a byddaf yn parhau i ddod yma gan ei bod yn fenter wych.  Mae gan bobl y dref ddiddordeb mawr yn yr hyn sy’n digwydd yma ac mae busnes yn dda.  Mae hefyd yn wych i mi, gan fy mod yn gallu parhau i wneud yr hyn rydw i wrth fy modd yn ei wneud, a bod yn rhan o’r gymuned.” 

Mae’r siop hefyd yn cynnig gwasanaeth “clicio a chasglu” wedi’i addasu i’r angen lleol.  Os bydd unrhyw un yn archebu gwerth dros £15 naill ai yn y siop neu ar lein, bydd FSBN yn danfon y nwyddau am ddim o fewn radiws o 2 filltir, a hynny o fewn 2 awr.   

Am ragor o wybodaeth am y siop dros dro, cysylltwch â Martin yn FSBN ar 07481 195453 neu anfonwch neges e-bost at flintshiresbn@gmail.com

Buckley Pop Up Shop 03.jpg          Buckley Pop Up Shop 04.jpg

Buckley Pop Up Shop 07.jpgCyng Derek Butler, Sue Owen - Plant Creations, Wendi Trasmundi - Trasmundi Glass, Sharon Beck - Shaz's Shabby Chic, Anne-Marie Sharp - Cowboys & Angels, Martin Evans - Rhwydwaith Busnesau Bach Sir y Fflint 

Buckley Pop Up Shop 09.jpg