Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o Safonau’r Gwasanaethau Stryd

Published: 04/07/2019

Bydd gofyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd nodi’r safonau Gwasanaethau Stryd presennol ac ystyried yr ychwanegiadau arfaethedig pan maent yn cyfarfod yr wythnos nesaf.

Cymeradwywyd cyfres o safonau Gwasanaethau Stryd ar ddechrau’r gwasanaeth newydd yn 2012. Roedd y rhain yn sail i’r adroddiad perfformiad bob chwarter. Mae Cynllun y Cyngor 2019 diweddaraf yn cynnwys mesur perfformiad newydd o safonau’r Gwasanaethau Stryd, dan y thema Cyngor Diogel a Glân.

Nid yw’r safonau wedi cael eu diweddaru ers 7 mlynedd, er bod yr adran wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y cyfnod, ac felly, cynhaliwyd adolygiad i ddiweddaru’r safonau, cyn cyflwyno proses monitro perfformiad newydd yn 2019/20.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae’n adeg briodol diweddaru ein safonau i adlewyrchu’r newidiadau sydd wedi digwydd yn ein gwasanaeth Gwasanaethau Stryd dros y 7 mlynedd diwethaf, mae rhai mesurau wedi cael eu diddymu, a rhai wedi eu hychwanegu i fynd i’r afael â thema Chynllun newydd y Cyngor, cyngor Diogel a Glân.”