Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y newyddion diweddaraf am gynllun gweithredu lleol Digartrefedd 

Published: 10/07/2019

Bydd adroddiad yn dangos sut mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r gostyngiad mewn digartrefedd yn cael ei drafod ymhlith aelodau’r Cabinet ddydd Mawrth 16 Gorffennaf. 

Mae Cynghorau Gogledd Cymru wedi llunio strategaeth a chynllun gweithredu rhanbarthol ar y cyd. 

Amcanion y strategaeth ddigartrefedd yw atal digartrefedd a sicrhau bod llety addas a chefnogaeth ddigonol ar gael i’r rhai sy’n ddigartref. Mae pob ardal wedi cytuno ar y themâu cyffredin sef Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau ac mae pob Cyngor wedi llunio ei gynllun gweithredu lleol ei hun yn seiliedig ar y themâu hynny. 

Mae Tai wedi bod yn flaenoriaeth i Gyngor Sir y Fflint ers sawl blwyddyn ac mae llawer o waith wedi’i wneud i atal digartrefedd.  Mae rhywfaint o’r gwaith sydd ar waith yn cynnwys: 

  • Dadansoddi’r rhesymau y tu ôl i ddigartrefedd. 
  • Datblygu cynhyrchiad theatr i ysgolion er mwyn codi proffil am beryglon digartrefedd i bobl ifanc. 
  • Gwneud cais am gyllid ar gyfer gweithiwr ieuenctid i greu darpariaeth ieuenctid sydd yn fwy integredig a darparu mwy o gefnogaeth i bobl ifanc sydd yn wynebu digartrefedd. 
  • Darparu gwelyau mewn argyfwng – mae cynllun peilot yn 2018 wedi cael ei ymestyn hyd at 2020 i helpu pobl sydd yn cysgu allan. 
  • Mae gweithiwr estyn allan yn gweithio gyda’r rhai sydd yn ddigartref ac ar y stryd neu sy’n defnyddio’r ddarpariaeth gwelyau mewn argyfwng ac mae'r gweithiwr yn gysylltiedig â Streetlink - gwasanaeth sydd yn galluogi aelodau o’r cyhoedd i roi gwybod am bobl ddigartref ac ar y stryd.
  • Roedd 8.7% o ddigartrefedd yn uniongyrchol gysylltiedig â phobl yn gadael carchar y llynedd.  Bellach mae gan Sir y Fflint weithiwr dynodedig sydd wedi bod yn gweithio gyda charcharorion cyn iddynt gael eu rhyddhau i leihau'r posibilrwydd y byddant yn ddigartref ar ôl cael eu rhyddhau. 
  • Yn ystod 2018/19, bu’r tîm Datrysiadau Tai yn delio â 41% o ymgeiswyr oedd â phryderon iechyd meddwl. Mae’r gwasanaeth bellach yn gweithio gyda chydweithwyr o’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion i sicrhau bod Gweithiwr Iechyd Meddwl o fewn y Tîm Datrysiadau Tai. 
  • Mae gwaith wedi dechrau i sicrhau cyllid ar gyfer cynllun peilot Tai yn Gyntaf yn Sir y Fflint. 
  • Mae gwell mynediad at lety yn parhau gydag ystod eang o waith yn sgil ymrwymiad y Cyngor i adeiladu mwy o dai cymdeithasol, a thrwy wneud hynny, cynyddu’r argaeledd yn y sector rhentu preifat. 
  • Adolygiad llawn o’r llety dros dro y mae’r Tîm Datrysiadau Tai yn eu defnyddio ar gyfer ymgeiswyr digartrefedd. 

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gontract gydag Asiantaeth Gosod Tai HAWS yn ddiweddar. Bydd HAWS yn gweithio gyda Thîm Datrysiadau Tai ar nifer o brif feysydd, gan gynnwys adolygu ymgeiswyr sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd a’u cynorthwyo i symud i lety addas. 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo, gyda’n partneriaid ar draws y rhanbarth, i fynd i’r afael â digartrefedd ym mhob ffurf.  Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaethau i helpu atal digartrefedd, megis cynllun peilot Atal Achosion o Droi Allan a lansiwyd ym mis Tachwedd 2018 sydd yn arbennig o ddefnyddiol.  

"Yn sgil hyn, bydd y cynllun peilot yn cael ei gyflwyno i'r Tîm Incwm a Thîm Cefnogi Pobl i sicrhau bod llwyddiant y cynllun peilot yn cael ei rannu ar draws gwasanaethau a’i fod yn cael ei sefydlu fel ffordd o weithio.”