Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar y Diwygiad Lles

Published: 10/07/2019

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir Y Fflint gefnogi’r gwaith sy’n mynd rhagddo i reoli’r effeithiau mae ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill wedi ac yn parhau i’w gael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint yn ei gyfarfod nesaf ar 16 Gorffennaf. 

Erbyn 2020, bydd diwygiadau lles Llywodraeth y DU wedi lleihau gwariant ar y budd-daliadau nawdd cymdeithasol sydd ar gael i aelwydydd incwm isel oedran gwaith o tua £31 biliwn y flwyddyn.

Ers 2012, mae’r Cyngor, yn ogystal â’i bartneriaid, wedi gweithio i gynorthwyo’n trigolion mwyaf diamddiffyn drwy’r diwygiadau a lliniaru effeithiau llawn y diwygiadau hyn.   

Erbyn Mawrth 2019, mae’r Dreth Ystafell Wely wedi effeithio ar gyfanswm o 677 o aelwydydd, gan gynrychioli cyfanswm gostyngiad o dros £565,00 y flwyddyn mewn budd-daliadau .

Er bod y nifer o aelwydydd yr effeithiwyd arnynt gan y cap budd-daliadau wedi gostwng 18% o 114 o aelwydydd i 93 o aelwydydd, mae’r sawl sydd wedi eu heffeithio gan y diwygio hwn yn tueddu i weld mwy o ostyngiad yn eu hincwm wythnosol.    Mae 49 o’r aelwydydd hyn wedi eu nodi mewn risg ariannol ac mae yna gefnogaeth ar gael gan y Tím Ymateb i Ddiwygiad Lles o fewn y Cyngor, er mwyn sicrhau lle bo’n bosibl nad ydynt yn cyrraedd pwynt argyfwng.

Erbyn Ebrill 2019, roedd llwyth achosion ar gyfer cwsmeriaid Sir y Fflint sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn 5,790 o’i gymharu â 3,623 ym mis Mehefin 2018 sy’n cyfateb i 59.81% o gynnydd.  

Mae ôl-ddyledion rhent ar gyfer 546 o denantiaid tai cyngor ar Gredyd Cynhwysol oddeutu £567,000.  Mae landlordiaid cymdeithasol eraill yn gweld effeithiau ôl-ddyledion hefyd.   

Er gwaethaf yr Adran Dai a Phensiynau yn cyhoeddi y byddai Cyngor Ar Bopeth yn cefnogi pobl ar Gredyd Cynhwysol o Ebrill eleni, mae’r Cyngor yn parhau i’w cynorthwyo gan nad yw’r gwasanaeth newydd hwn yn cynnwys yr elfen cefnogaeth cyllidebu personol ac mae ar gael ar gyfer cwsmeriaid hyd at y dyddiad maent yn derbyn eu taliad Credyd Cynhwysol llawn cyntaf yn unig.  

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Ers dechrau’r Credyd Cynhwysol, mae’r cyngor wedi gweld galw digynsail am wasanaethau o ran rheoli eu cyllid, llywio’r systemau ar-lein a chefnogi cwsmeriaid i ddeall eu hawliadau.

“Bydd y tîm Ymateb i’r Diwygiad Lles yn parhau i gefnogi ein trigolion yn arbennig gyda chyllidebu personol, sy’n sylweddol iawn i gwsmeriaid sydd o bosibl yn dechrau yn y byd gwaith am y tro cyntaf, neu sydd wedi derbyn budd-daliadau ers peth amser, a lle mae symud i un taliad misol cyfunol yn her wirioneddol iddynt.   Mae hyn yn dangos ein gofal a’n cefnogaeth fel Cyngor tuag at ein haelwydydd mwyaf diamddiffyn.” 

“Mae ymateb Sir y Fflint i weithredu’r Credyd Cynhwysol wedi ei weld fel model arfer da gan Awdurdodau Lleol eraill Cymru a Llywodraeth Cymru ac mae’n Adran Budd-daliadau wedi bod yn darparu cymorth a chyngor i Awdurdodau Lleol eraill Cymru cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno yn eu hardal nhw.