Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Modelau Darparu Amgen - Cam 2

Published: 10/07/2019

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cam 2 rhaglen Model Darparu Amgen yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 16 Gorffennaf.

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio ar raglen arloesol Modelau Darparu Amgen ers 2014, sydd wedi’u dylunio i wneud arbedion refeniw blynyddol sylweddol, wrth sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n cael eu diogelu yn y dyfodol. Mae’r rhaglen ddechreuol hon wedi’i gwblhau'n llwyddiannus. Y trosglwyddiadau gwasanaeth sydd wedi’u cwblhau yw:

  • Gwasanaeth Hamdden a Llyfrgell – Aura Leisure and Libraries Ltd 
  • Gwasanaethau Rheoli Arlwyo a Chyfleusterau - Newydd 
  • Prisio, Ystadau, Priffyrdd, Peirianneg ac Eiddo 
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Gwasanaethau Dydd a Chyfleoedd Gwaith - HFT 
  • Rhaglen Drosglwyddo Asedau Corfforaethol 

Erbyn hyn mae’r Cyngor yn barod i ddechrau ar ail gam y rhaglen sy’n uchelgeisiol ac yn fwy eang, gydag ystod eang o gysyniadau ar gyfer modelau darparu gwasanaethau amgen ar gyfer gwasanaethau presennol a modelau newydd ar gyfer arloesiadau gwasanaeth newydd. 

Mae’r cynigion ar gyfer yr ail gam, sydd oll ar wahanol gamau, wedi’u rhestru isod:

  • Adleoli gwasanaeth rheoli a monitro teledu cylch caeedig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW), i ddarparu gwasanaeth teledu cylch caeedig ar y cyd, a gaiff ei reoli gan CBSW a bydd sir y Fflint yn cadw’r cyfrifoldeb dros gostau ffibr a chostau cynnal a chadw a newid camerâu.  Cafodd hyn ei gefnogi gan y Cabinet ym mis Mehefin.
  • Theatr Clwyd – trosglwyddo trefniadau llywodraethu’r theatr i fodel ymddiriedolaeth annibynnol. Cafodd hyn ei gefnogi gan y Cabinet ym mis Mehefin a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar gyfer penderfyniad terfynol dim hwyrach na Rhagfyr 2019.
  • Gofal ar raddfa fach (gwasanaethau gofal cartref yn y gymuned) Mae Gofal ar raddfa fach yn ddull arloesol o ddatblygu modelau cefnogi gofal yn lleol, drwy fentrau cymdeithasol neu gydweithfeydd, fel ffordd o gryfhau’r ddarpariaeth ehangach o ofal cartref, sy’n profi prinder mewn gweithlu mewn nifer o ardaloedd yn y sir ac ar draws y DU.
  • Gwasanaethau Masnachu Cludiant a Strydwedd - mae'r gwasanaeth yn datblygu'r cysyniad o gyflwyno Cwmni Masnachu Annibynnol 'Hyd Braich' i ddarparu a datblygu gweithgareddau masnachol, o fewn ardal ddiffiniedig o'r gwasanaeth Strydwedd, er mwyn cynyddu lefelau incwm.
  • Gwasanaethau Masnachu’r Cyfrif Refeniw Tai – mae’r gwasanaeth yn datblygu cynnig i dyfu cangen fasnachu o'n Sefydliad Llafur Uniongyrchol a hyrwyddo ein gwasanaethau trydanol a nwy o safon uchel, yn ogystal â’n gwasanaeth ymateb i argyfwng i'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig cyfagos ac eraill, er mwyn cynhyrchu incwm.
  • Menter Tlodi Bwyd – Mae’r Cyngor yn pryderu am y cynnydd mewn tlodi bwyd ac wedi bod yn archwilio, gyda'i bartneriaid, dewisiadau i ddatblygu canolfan baratoi a dosbarthu bwyd yn sir y Fflint i fynd i'r afael â thlodi bwyd ar lefel mwy cynaliadwy a hirdymor.
  • Cwmni Ynni Gwyrdd – gall gwmni ynni gwyrdd dan berchnogaeth yr awdurdod lleol fod â nifer o swyddogaethau, gan gynnwys dod yn ddarparwr ynni yn y sector breifat, datblygu asedau creu ynni adnewyddadwy, darparu cyngor ar ynni o ran gofynion cydymffurfio statudol ac archwiliadau cwmni. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Mae llwyddiant ysgubol cam un ein rhaglen Modelau Darparu Amgen yn dweud y cyfan.  Gyda cham dau, rydym yn fwy uchelgeisiol a blaenllaw.  Bydd sefydlu’r sefydliadau hyn yn garreg filltir arwyddocaol, gan alluogi gwasanaethau’r Cyngor i oroesi a thyfu wrth greu incwm ar gyfer y Cyngor yn ystod y cyfnodau economaidd heriol sydd ohoni.

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Mae sir y Fflint yn Gyngor arloesol sy’n arwain y ffordd ymysg ei gyfoedion. Roedd cam cyntaf ein Modelau Darparu Amgen yn llwyddiant. Yn yr un modd, bwriad yr ail gam yw gwneud grwp o wasanaethau yn fwy cynaliadwy drwy newid y ffordd maent yn cael eu sefydlu a'u cynnal."

Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ar 17 Medi 2019.