Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau Sorted Sir y Fflint

Published: 17/12/2014

Mae Ysgolion Uwchradd o bob cwr o Sir y Fflint wedi derbyn Gwobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau Sorted Sir y Fflint. Mae’r wobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau yn safon i ysgolion ymgyrraedd ato i’w cynorthwyo i fynd i’r afael â phroblemau cyffuriau ac alcohol drwy ymyrraeth gynnar. Mae’n arwain y ffordd o ran gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r safon, a osodwyd i gynorthwyo ysgolion i ychwanegu at eu gwaith presennol, yn helpu i ddatblygu dull mwy effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Drwy gynnwys athrawon a disgyblion, mae gan ysgolion sy’n ymwybodol o gyffuriau addysg, polisi a chymorth cyffuriau ac alcohol sy’n well ac yn fwy cadarn ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed. Mae saith ysgol uwchradd wedi llwyddo i gyrraedd y safon ar gyfer blwyddyn academaidd 2013-2014, sef Ysgol Alun, Yr Wyddgrug, Ysgol Uwchradd Babyddol St Richard Gwyn, ac Ysgolion Uwchradd Argoed, Elfed, John Summers, Penarlâg a Dewi Sant. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg: Hoffwn longyfarch yr ysgolion sydd wedi llwyddo i gyrraedd y safon. Mae’n golygu fod plant a phobl ifanc yn cael gwell addysg gyffuriau yn ein hysgolion gyda gwell polisi, staff mwy hyderus a phrosesau ymyrraeth gynnar mwy effeithiol. Y nod yw newid ymddygiad pobl ifanc o amgylch cyffuriau ac alcohol wrth iddynt ganolbwyntio ar y ffyrdd y mae sylweddau’n effeithio ar eu bywydau nawr a datblygu sgiliau amddiffynnol. Os hoffech fwy o wybodaeth am Sorted Sir y Fflint, ffoniwch y tîm ar 01244 551477. Lluniau Yn y lluniau gwelir yr ysgolion unigol yn derbyn eu gwobrau gan aelodau o dîm Sorted Sir y Fflint.