Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Gwella Blynyddol

Published: 10/07/2019

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried Adroddiad Gwella Blynyddol, Archwilydd Cyffredinol Cymru (AIR) yn ei gyfarfod, ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf.

Mae’r AIR yn crynhoi’r archwiliad a’r gwaith rheoleiddio a gynhaliwyd yn y Cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru ers cyhoeddi'r adroddiad diwethaf ym mis Tachwedd 2019. Roedd canolbwynt eleni ar waith gwella asesiad; prosiect a gwaith sicrwydd ac asesiad risg mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn gyffredinol mae AGfW wedi cyrraedd casgliad cadarnhaol bod “y Cyngor yn bodloni ei ofynion statudol mewn perthynas â gwelliant parhaus ond, fel pob Cyngor yng Nghymru, mae’n wynebu heriau wrth symud ymlaen.”

Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn y mae angen i’r Cyngor gydymffurfio â nhw. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:

“Rwy'n croesawu'r adroddiad cadarnhaol iawn hwn sy'n llawn gwybodaeth gan AGfW sy'n dangos yn glir bod y Cyngor yn gweithredu'n effeithiol, mewn cyfnod sy’n cael ei dderbyn yn eang fel un heriol ar gyfer llywodraeth leol. 

“Serch hynny, mae pob cynnig i wella sy’n dod o adroddiadau rheoleiddio (yn lleol ac yn genedlaethol) yn cael eu hystyried yn llawn o hyd, i sefydlu a oes angen cynnal gwelliannau pellach.”

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Mae adroddiad AGfW yn cynrychioli bil glân o iechyd y Cyngor hwn, yn amlwg yn cydnabod ein llwyddiant blaenorol o reoli cyllidebau’n effeithiol, ac yn adlewyrchu ein hymdrechion unol a pharhaus a’n hymrwymiad i ddefnyddio ein hadnoddau mor effeithlon â phosibl.”