Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Diweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol

Published: 10/07/2019

Bydd gofyn i’r Cabinet gefnogi cynnwys fersiwn ddrafft Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w Archwilio gan y Cyhoedd 2015-2030 (CDLl) ac argymell ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn y cyfarfod ar 23 Gorffennaf, er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. 

Y CDLl ydi cynllun defnydd tir arfaethedig y Cyngor, ac unwaith y bydd wedi’i fabwysiadu bydd y Cyngor yn ei ddefnyddio i arwain a rheoli datblygiad a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol. 

Cwblhawyd y cerrig milltir canlynol hyd yn hyn:

  • llunio sail dystiolaeth gadarn i gefnogi’r cynllun 
  • cyflwyno ac asesu safleoedd ymgeisiol
  • ymgynghori â’r cyhoedd a budd-ddeiliaid allweddol ar y prif negeseuon o’r dystiolaeth gadarn 
  • ymgynghori â’r cyhoedd a budd-deiliaid allweddol ar Weledigaeth, Amcanion y CDLl a’r Twf Strategol a Dewisiadau Gofodol - 2016
  • ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir – Tachwedd 2017 
  • galw am ac asesu Safleoedd Amgen fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir 

Mae’r ddogfen strategaeth a pholisi pwysig y Cyngor yn nodi’r fframwaith gynllunio yn Sir y Fflint ac mae’n nodi’r nodau canlynol: 

  • darparu cyfleoedd i gyflwyno rhwng 8-10,000 o swyddi trwy gynnal portffolio hyfyw o dir cyflogaeth, i gefnogi dyheadau twf rhanbarthol ehangach; 
  • darparu 6950 o gartrefi newydd dros gyfnod y cynllun 
  • hwyluso cyflwyno dau ymrwymiad safle strategol hir dymor ym Mhorth y Gogledd a Warren Hall; 
  • lleoli twf cynaliadwy yng nghanolfannau gwasanaeth y Sir ac aneddiadau cynaliadwy yn seiliedig ar hierarchaeth anheddiad;
  • darparu datrysiad pragmataidd i anghenion tai fforddiadwy a thai arbenigol 
  • lleihau’r angen i ddiwygio rhwystrau glas Sir y Fflint er mwyn hwyluso datblygu cynaliadwy;
  • sicrhau bod safleoedd yn hyfyw ac yn gyflawnadwy, a sicrhau bod yr isadeiledd yn gallu ymdopi â thwf yn y dyfodol.

Dywedodd Y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd;

“Ar ôl llawer o waith caled gan swyddogion ac aelodau dros y 4 blynedd diwethaf, mae’r CDLl presennol yn cynrychioli pen llanw ystyriaeth y Cyngor o gynnwys y cynllun er mwyn i'r cyhoedd ymgynghori arno. 

“Cynhaliwyd rhaglen gynhwysfawr o ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid a’r cyhoedd ar gyfnodau allweddol o’r broses ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet a’r Cyngor Llawn, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar agor am gyfnod o chwe wythnos o ddydd Llun 30 Medi tan ddydd Llun 11 Tachwedd. 

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, yr amserlen ar gyfer y cynllun hyd nes y caiff ei fabwysiadu ydi: 

  • ystyried sylwadau i’r ymgynghoriad ac ymateb gan y Cyngor: Ebrill/Mai 2020 
  • cyflwyno’r CDLl er mwyn i Lywodraeth Cymru Graffu arno: Haf 2020
  • Archwiliad ffurfiol o'r CDLl: Hydref 2020
  • derbyn Adroddiad yr Archwilydd a Mabwysiadu’r CDLl:  Haf 2021.