Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Ysgolion Iach

Published: 16/07/2019

Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu Cyrhaeddiad blynyddol Ysgolion Iach Sir y Fflint yn ddiweddar yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint.

Trefnir y digwyddiad ysbrydoledig hwn sy’n codi’r ysbryd gan y Tîm Ysgolion Iach, sy’n rhan o Wasanaeth Addysg ac Ieuenctid y Cyngor.  Am y drydedd flwyddyn yn olynol, dathlwyd y digwyddiad sy’n cydnabod cyraeddiadau ysgolion ym mhob agwedd ar addysg iechyd a chwaraeon ar y cyd gyda Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint (FPSGA).

Roedd disgyblion o ysgolion ar draws y sir yn bresennol i dderbyn eu gwobrau gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman.

Roedd Mr Gareth Caughter, Cadeirydd yr FPSGA a Phennaeth Ysgol Owen Jones, Llaneurgain yn croesawu pawb i’r digwyddiad oedd yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug a pherfformiadau codi hwyl gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Ewloe. Roedd cyflwyniad a rannwyd gan Ysgol Ty Ffynnon, Shotton yn dangos sut y daethant yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni ‘Gwobr Genedlaethol Meithrin Ysgolion’.

Cyflwynodd y Cynghorydd Bateman y Wobr Chwaraeon Tîm y Sir, gan ddweud:

“Mae heddiw yn amlygu ymrwymiad parhaus i chwaraeon yn Sir y Fflint sy’n parhau i ddigwydd blwyddyn ar ôl blwyddyn ym mhob un o’n hysgolion ar draws y sir.   Mae ystod eang o chwaraeon yn cael eu cydnabod yn y digwyddiad hwn yn cynnwys rownderi, pêl-droed, athletau, criced a phêl-rwyd.  Da iawn i bawb sy’n rhan ohono.”

Cafodd nifer o wobrau Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm Chwaraeon y Ddraig eu cyflwyno gan Steve Thomas o Aura Leisure and Libraries. Enillydd y wobr aur eleni oedd Ysgol Terrig, Treuddyn ac aeth gwobrau platinwm i Ysgol Gynradd Southdown, Bwcle, Ysgol Gatholig Sant Winefride, Treffynnon; Ysgol Gynradd Goffa Wood, Saltney, Ysgol Gynradd Ewloe Green, Ysgol Glan Aber, Bagillt, Ysgol Bro Carmel, Treffynnon ac Ysgol y Llan, Chwitffordd. 

Cyflwynodd Vicky Barlow, Rheolwr Gwella ysgolion 13 o wobrau Ysgolion Iach Cam 4 a 5 a Gwobrau Ansawdd Cenedlaethol Ysgolion Iach.    Cyflawnodd dwy ysgol, Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor ac Ysgol Gynradd Sandycroft yr achrediad yr haf hwn ac roedd Ysgol Uwchradd Alun, yr Wyddgrug, Ysgol Cornist Park, y Fflint, Ysgol Mynydd Isa ac Ysgol Gynradd Goffa Wood, Saltney wedi eu hailachredu’n llwyddiannus ar gyfer 2018/19.

Dywedodd Vicky Barlow:

“Mae cyflawni Gwobr Ansawdd Cenedlaethol yn dangos ymrwymiad cadarn i ddatblygu pob agwedd o iechyd a lles dros nifer o flynyddoedd, fel rhan o ddull ysgol gyfan.   Mae’n cynnwys dros 10 mlynedd o waith ac ymweliad gwirio dau ddiwrnod gan Lywodraeth Cymru.  Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Rhos Helyg ac Ysgol Gynradd Sandycroft am gyflawni gymaint eleni!”

Ymysg y gwobrau a gyflwynwyd oedd tair gwobr arbennig gan PSGA i Nicola Prince o Ysgol Gynradd Goffa Wood Saltney wnaeth ennill y Wobr Campwraig Mwyaf Addawol 2019.   

Cafodd gwobr Cyfraniad Rhagorol i Chwaraeon yn Sir y Fflint eleni ei chyflwyno i Mrs  Debbie Lawrence, gyda thristwch fu farw ym mis Mai.  Roedd Debbie wedi dysgu yn Ysgol Gynradd Green Ewloe ers dros 16 mlynedd ac yn ystod yr amser hwnnw roedd ei hymrwymiad i chwaraeon yno i bawb ei weld oedd o fudd i ddisgyblion a chydweithwyr yn ei hysgol ac ar draws Sir y Fflint.   

Dywedodd y Cynghorydd Bateman:

“Mae hwn yn ddathliad arbennig iawn ac rwy’n falch iawn i’w gefnogi.   Mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddangos ein cefnogaeth i’r Cynllun Ysgolion Iach a dathlu athletwyr talentog y sir.    Mae’n hyfryd gweld y plant yn cymryd rhan mor frwdfrydig.”

 _DSC1614.JPG