Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ewch am rai ‘go iawn’ ac arbed cannoedd

Published: 29/04/2014

Wrth i’r cynlluniau ar gyfer Wythnos Clytiau Go Iawn eleni gael eu traed danynt, mae Cyngor Sir y Fflint yn annog rhieni Cymru i ymuno â’r niferoedd cynyddol sy’n defnyddio clytiau brethyn ‘go iawn’ ar eu babi. Mae Wythnos Clytiau Go Iawn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei gynnal rhwng 28 Ebrill 28 a 4 Mai. Cefnogir y digwyddiad gan Ailgylchu dros Gymru a bydd yn gweld awdurdodau lleol yn ymuno â manwerthwyr clytiau go iawn i ddangos i rieni sut y gall clytiau golchadwy eu helpu i arbedarian yn ogystal â lleihau gwastraff. Bydd angen i’r babi cyffredin wisgo clytiau papur am ddwy flynedd a hanner, cost o £650 i £1300*. Ar y llaw arall gallai Clytiau Go Iawn gostio ond £200* (cost prynu) am yr un cyfnod o ddwy flynedd a hanner, gan fynd â’ch plentyn o’i eni yr holl ffordd at hyfforddiant toiled. Gallai’r arbedion hyn ddechrau cynyddu o ddifrif pan gaiff y clytiau eu hailddefnyddio ar blant diweddarach. Mae clytiau go iawn modern yn hwyl, yn ffasiynol ac yn dod mewn amryw o steiliau, cynlluniau a lliwiau, o ddenim i guddliw a phrintiau buwch i ryfflau. Mae clytiau go iawn o les i’r amgylchedd hefyd, meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir y Fflint: “Mae clytiau papur yn gallu cymryd hyd at 500 mlynedd i fioddiraddio, ond mae dim ond newid i glytiau brethyn yn lle rhai papur, yn atal dros 4,000 o glytiau rhag mynd i dirlenwi” “Mae clytiau brethyn yn feddal a chyfforddus i’w gwisgo, ac os dewiswch chi’r clwt brethyn iawn ar gyfer siâp eich plentyn, maen nhw’n gollwng llawer llai na rhai papur. “ Mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â Chyngor Sir Ddinbych yn cynnig gwasanaeth talebau i annog rhieni i ddefnyddio clytiau go iawn. Gellir defnyddio hyd at werth £75 o dalebau fel rhan-daliad tuag at Glytiau Go Iawn neu Wasanaeth Golchi Clytiau Go Iawn. Bydd rhieni sy’n gymwys yn derbyn talebau gwerth £25 yr un i’w defnyddio pan fydd eu babi’n 0-3 mis oed, yn 4-9 mis oed ac yn 10-18 mis oed. I gael mwy o wybodaeth edrychwch ar daflen y Cynllun Cymhelliant Clytiau Go Iawn ar http://www.flintshire.gov.uk Ar hyd yr wythnos, bydd awdurdodau lleol yn cynnal sesiynau cyngor i roi cyfle i rieni gael gwybod mwy am y gwahanol fathau o glytiau go iawn sydd ar gael a gwybodaeth am fanteision eu defnyddio. I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi cysylltwch â’ch awdurdod lleol, neu ewch i www.realnappies-wales.org.uk neuwww.recycleforwales.org.uk