Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Arddangosfa Egnin Llifo
  		Published: 04/12/2014
Prosiect Artistiaid Preswyl Melin Gelf a Chrefft 
Treffynnon                                  
Artistiaid Dawns a Cherddoriaeth Preswyl
Arddangosfa Egni’n Llifo
Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2pm tan 4pm
Bydd arddangosfa dawns a cherddoriaeth a grëwyd gan bobl ifanc yn Nhreffynnon 
yn agor i’r cyhoedd ddydd Mercher 10 Rhagfyr ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon.
Bu’r ymarferwyr dawns cymunedol Dawns GDdC a’r cerddor Ynyr Llwyd yn gweithio 
fel artistiaid preswyl ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon a’r ardal gyfagos.
Bu’r artisiaid yn gweithio gyda’r gymuned leol i greu dawnsfeydd a darnau o 
gerddoriaeth.  Bu’r artistiaid dawns a cherddoriaeth yn cydweithio’n agos ar yr 
un thema Egni’n Llifo.
Roedd y cyfranogwyr yn dod o Ysgol Bryn Pennant (Blwyddyn 1),Ysgol Santes 
Gwenffrewi (Blwyddyn 4), Ysgol Uwchradd Treffynnon (Blwyddyn 7 ac 8), Ysgol 
Maesglas, Ysgol Bro Carmel a Chlwb Ieuenctid Maes Glas.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg:
“Mae Egni’n Llifo wedi bod yn brosiect gwych a chafodd bawb a gymerodd ran 
brofiad creadigol hyfryd.  Byddwn yn annog pawb i ddod i weld yr arddangosfa 
sy’n agor i’r cyhoedd o ddydd Mercher 10 Rhagfyr tan ddydd Sul 14 Rhagfyr, 10am 
tan 4pm, ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon.”
Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Mentrau 
Cymunedol Gorllewin Sir y Fflint.  Rheolir Melin Gelf a Chrefft Treffynnon gan 
gwmni West Flintshire Community Enterprises Ltd.
Nodyn i Olygyddion
Fe’ch gwahoddir i anfon ffotograffydd i agoriad yr arddangosfa Egni’n Llifo am 
2pm ddydd Mawrth 9 Rhagfyr.  Cyswllt y wasg: Gwenno Jones 
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk 01352 704400.