Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cydnabyddiaeth genedlaethol i wasanaethau iechyd meddwl Sir y Fflint
Published: 08/12/2014
Cafodd gwasanaethau iechyd meddwl rhagorol Sir y Fflint eu harddangos mewn
cynhadledd genedlaethol yn Llundain.
Clywodd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd meddwl o bob rhan o’r Deyrnas
Unedig am brosiect Byw Bywydau Annibynnol syn cefnogi oedolion â phroblemau
iechyd meddwl difrifol a pharhaus.
Mewn cyflwyniad ar y cyd esboniodd Sue Woods (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Eiriolaeth
Sir y Fflint), Neil Ayling (Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor) a
Rhian Evans (Rheolwr Tîm) sut caiff ystod o wasanaethau eu teilwra i gefnogi
unigolion iw helpu i fod yn fwy annibynnol a gweithgar yn eu cymunedau. Maer
ymagwedd arloesol yma’n lleihau cost gwasanaethau iechyd meddwl.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau
Cymdeithasol: “Rydw i’n falch fod gwaith Sir y Fflint wedi ei gydnabod yn
genedlaethol yn dilyn ennill gwobr Gofal Cymdeithasol y llynedd.
Mae ein hymagwedd wedi sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael
mwy o gyfleoedd i wella annibyniaeth a lles. Rydym ni’n adeiladu ar y
llwyddiant yma ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau sydd ar flaen y gad o ran
arfer da. Roedd derbyn gwahoddiad i siarad yn y gynhadledd genedlaethol yn
gyfle gwych in swyddogion rannu arfer da ac arddangos eu llwyddiannau.