Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad Cyd-Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru (drafft)
Published: 11/12/2014
Ymgynghoriad Cyd-Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru (drafft): 24 Tachwedd
2014 tan 5 Ionawr 2015
Cynhelir digwyddiad ymgynghori ar Gyd-Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru
drafft ddydd Llun 15 Rhagfyr o 1pm tan 7pm yn Neuadd Tref yr Wyddgrug, Ffordd
yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Maer digwyddiad yn gyfle i aelodau o’r cyhoedd a budd-ddeiliaid drafod a rhoi
sylwadau ar yr ymyriadau sydd wedi eu cyflwyno yng Nghyd-Gynllun Cludiant Lleol
Gogledd Cymru 2015-2020.
Maer cynllun yn cynnwys Cyngor Ynys Môn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;
Cyngor Sir Ddinbych; Cyngor Sir y Fflint; Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam ac mae’n nodi eu gweledigaeth i ‘oresgyn rhwystrau i dwf
economaidd, ffyniant a lles drwy ddarparu rhwydweithiau cludiant diogel,
cynaliadwy, fforddiadwy ac effeithiol.
Gobeithir y bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru i
ddarparu seilwaith cyfalaf syn helpu i gyflawni twf economaidd yng ngogledd
Cymru a darparu gwell mynediad i wasanaethau a swyddi drwy ymyrraeth lefel uwch.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy
Arweinydd,
“Maer cynllun cludiant lleol drafft yn effeithio arnom ni i gyd ac anogaf bawb
i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Gellir darllen y cynllun drafft
yn www.taith.gov.uk/taith-joint-board/consultation/. I gael rhagor o wybodaeth
e-bostiwch LTP@gwynedd.gov.uk.”
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 5 Ionawr 2015.