Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mynediad haws at Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymunedol
Published: 11/12/2014
Mae gwasanaeth newydd yn cael ei lansio’r gwanwyn nesaf fydd yn ei gwneud hi’n
haws i bobl dros 18 gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol yn
Sir y Fflint.
Mae Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r sector
gwirfoddol wedi ymuno i ddarparu mynediad cysylltiedig at wasanaethau a
gwybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol. Mi fydd modd i breswylwyr
gysylltu drwy ddefnyddio un rhif ffôn i siarad ag aelod o dîm o staff iechyd a
gofal cymdeithasol wedi’u cyd-leoli.
Caiff adroddiad yn diweddaru cynghorwyr ar y fenter newydd ei gyflwyno i
Gabinet y Cyngor ar Ddydd Mawrth 16 Rhagfyr.
Enw’r fenter ydyr Un Pwynt Mynediad, mi fydd hi’n darparu llwybr integredig a
syml at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol. Mi fydd hi hefyd yn
darparu pobl broffesiynol â ffordd o rannu gwybodaeth a darparu gwasanaethau
sydd wedi’u cydlynu’n well.
Caiff anghenion y galwr eu hadnabod yn dilyn yr ymholiad cyntaf, yn gwneud yn
siwr eu bod yn cael eu cyfeirio at wasanaethau eraill yn y gymuned leol neu’n
cael eu cyfeirio at y gwasanaeth cywir. Mi fydd hi hefyd yn galluogi pobl i
gael mynediad at yr ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael yn eu cymunedau.
Mi fydd hi’n un o chwech ar draws ardaloedd Cyngor Sir Gogledd Cymru ac maen
cael ei hariannu’n rhanbarthol gan Gronfa Cydweithio Rhanbarthol Llywodraeth
Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau
Cymdeithasol: “Mi fydd y ffordd newydd yma o weithio’n golygu bod defnyddwyr
ein gwasanaethau’n gallu cysylltu ag un rhif yn hytrach na nifer o sefydliadau
sy’n gallu drysu a chymryd amser.
Rydw i’n falch ein bod ni’n mynd i allu cynnig gwasanaeth di-dor i bobl, yn
gweithio gyda’n partneriaid yn y sectorau gwirfoddol ac iechyd i sicrhau bod
pobl yn cael y wybodaeth gywir o’r gwasanaeth cywir ar yr amser cywir.”