Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gwella

Published: 11/12/2014

Bydd aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cynllun Gwella’r Cyngor pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth16 Rhagfyr. Bydd y Cyngor yn pennu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella bob blwyddyn ar ffurf Cynllun Gwella, ac yn gweithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau a safonau byw ar hyd a lled y Sir.   Bydd yr adroddiad monitro a gyhoeddir ddydd Mawrth yn rhoi asesiad o’r sefyllfa erbyn canol y flwyddyn ac yn dangos a yw’r Cyngor yn debygol o gyflawni ei amcanion. Dyma’r uchafbwyntiau hyd yma yn ystod y flwyddyn ariannol hon: ·         Help i greu 539 o swyddi newydd yn y swydd – 454 ohonynt yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy . ·         Codi ymwybyddiaeth o Gronfa Menter Gymdeithasol Sir y Fflint, sydd wedi helpu pedair menter gymdeithasol – Penny Smart, DangerPoint, Llyfrgell Gladstone a KIM Inspire. ·         Rhoi cynllun busnes NEW Homes ar waith yn llwyddiannus sy’n cynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y sir. ·         Mae Llys Jasmine, y cynllun gofal ychwanegol yn yr Wyddgrug, yn awr yn llawn ac mae rhestr aros am ystafelloedd. Lansiwyd caffi’r cof yno’n ddiweddar. ·         Mae’r Cyngor yn parhau i weithio i helpu pobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n ddyledus iddynt ac i helpu i reoli effaith y Diwygiadau Lles ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y Sir. Ers mis Ebrill, rydym wedi helpu dros 800 o deuluoedd yn Sir y Fflint i hawlio budd-daliadau lles gwerth  £1.3 miliwn. Cafodd teuluoedd y mae’r diwygiadau lles wedi effeithio arnynt daliadau tai dewisol gwerth dros £140,000. Cafodd y rheini a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref hefyd help i reoli dyledion gwerth bron £700,000 at ei gilydd. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Drwy fonitro Cynllun Gwella’r Cyngor ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, gallwn asesu a ydym am gyrraedd y targedau a gwella gwasanaethau i bobl y sir. Mae’r Cyngor yn sefydliad uchel ei berfformiad a drwy ei Gynllun Gwella, rydym yn blaenoriaethu meysydd a gwasanaethau sy’n bwysig i gymunedau a phobl y sir.” Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: Mae ein perfformiad o safbwynt ein blaenoriaethaun dangos bod y Cyngor yn llwyddo i wneud y pethau pwysicaf