Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun gwella canol tref Bwcle

Published: 30/12/2014

Bydd gwaith yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd ar welliannau i greu gofod amlddefnydd deniadol yng nghanol tref Bwcle. Maer gwaith i fod i ddechrau ar 12 Ionawr 2015 a bwriedir ei gwblhau erbyn canol mis Mawrth 2015. Mae newidiadau a gwelliannau yn cael eu gwneud i Faes Parcio Ffordd Brunswick. Bydd y gwaith yn gwellar ardal hon drwy greu gofod mwy deniadol a defnyddiol ar gyfer cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, wrth alluogi ir ardal aros fel maes parcio allweddol ar gyfer y rhan fwyaf or amser. Maer cynllun gwella Strydlun a Mynediad yn rhan o Brosiect Adfywio Canol Trefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd seddi pwrpasol hefyd yn cael eu gosod i adlewyrchu rhywfaint o hanes y dref. Mae seddi tryc yn cael eu gwneud yn seiliedig ar dryciau tipio clai a gafodd eu hadfer yn 2005 o bwll ar y comin ac fe’u hadnewyddwyd gan aelodau Cymdeithas Bwcle (www.buckleysociety.org.uk). Roedd tryciau or fath yn cael eu defnyddio yn gyffredin mewn chwareli gweithfeydd brics o gwmpas y dref ac maent yn rhan allweddol o hanes Bwcle. Mae nifer o golofnau brics hefyd yn ffurfio rhan or gwelliannau a gobeithir y byddant hefyd yn arddangos rhywfaint o hanes gwneud briciau’r dref trwy gynnwys rhai brics gwreiddiol or dref. Bydd aflonyddwch yn ystod y gwaith gwella yn cael ei gadw ir lefel lleiaf posibl ond sylwer na fydd modd defnyddio rhan helaeth o Faes Parcio Ffordd Brunswick tra bydd y gwaith yn digwydd. Bydd modd parcio yng nghanol y dref yng nghefn y Ganolfan. Bydd swyddogion y Cyngor a chynrychiolwyr or contractwr gwaith wrth law yn y Ganolfan (yng nghaban y Cyngor Tref) ddydd Iau 8 Ionawr 2015 o 4pm i 6.30pm i drafod unrhyw bryderon neu ymholiadau a all fod gan drigolion neu fusnesau lleol cyn ir gwaith ddechrau. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Maer Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi canol trefi yn Sir y Fflint ac mae wedi sicrhau cyllid Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i wella eu hymddangosiad. Bydd y gwelliannau hyn i dref Bwcle yn gwellar gofod canolog hwn a fydd yn cael ei ddefnyddio mwy ar gyfer digwyddiadau ac yn creu parth cyhoeddus gwell. “Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw frics Bwcle y byddent yn hoffi eu cynnwys yn y gwaith gwella (yn y colofnau brics) i ddod â hwy i Swyddfeydd y Cyngor Tref ar Ffordd yr Wyddgrug cyn gynted â phosibl.