Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cymunedau Sir y Fflint yn ymateb yn dda ir cynllun i drosglwyddo asedau lleol
  		Published: 17/12/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael ymateb da gan gymunedau lleol i’r cynllun 
trosglwyddo asedau cymunedol.
Ail-lansiwyd y cynllun ddechrau mis Tachwedd. Mae ugain cynnig yn ymwneud â 
dros 40 o asedau wedi’u cytuno eisoes ac wedi symud ymlaen i’r cam nesaf, yn 
dilyn y dyddiad cau cyntaf ar gyfer mynegi diddordeb. Y cam nesaf fydd 
cynhyrchu achos busnes ac mae disgwyl i hyn gymryd tua chwe mis.
Mae’r asedau’n cynnwys caeau chwarae, meysydd chwarae, canolfannau cymuned, 
canolfannau ieuenctid, rhagdiroedd, safleoedd chwaraeon, pafiliynau a 
llyfrgelloedd, ac mae Cynghorau Tref a Chymuned, cyrff cymunedol ac unigolion 
wedi mynegi diddordeb.
Yn ogystal â’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb ffurfiol, cafwyd 47 o ymholiadau 
anffurfiol, yn ymwneud â 195 o asedau mewn 21 o ardaloedd Cynghorau Tref a 
Chymuned. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Cafwyd ymateb da iawn gan ein cymunedau. Mae’n dangos y gallwn, hyd yn oed yn 
wyneb y sefyllfa ariannol anodd hwn, gydweithio â chymunedau lleol i ddatrys 
problemau’n ymwneud â chynnal gwasanaethau ac asedau lleol yn y dyfodol.”  
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd, a’r deiliad 
portffolio ar gyfer y cynllun:
“Rydym yn falch iawn o ymateb ein cymunedau lleol. Byddwn yn awr yn gweithio 
gyda’r cyrff hyn i’w helpu nhw i ddatblygu eu hachosion busnes. Rydym wastad 
wedi bod yn glir nad yw penderfyniad i fynegi diddordeb cychwynnol yn ymrwymo 
neb i’r broses o  drosglwyddo asedau ond mae’n awr yn caniatáu i ni  gynnal 
trafodaeth fanylach a rhoi’r cymorth priodol i’r ymgeiswyr.
Bydd y cymorth hwn yn cynnwys y dogfennau a’r wybodaeth berthnasol yn ymwneud 
â’r ased yn ogystal â chymorth cyfreithiol, ariannol a chymorth cynllunio 
busnes a gaiff ei drefnu gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. 
(FLVC).
Dywedodd Ann Woods, Prif Swyddog FLVC:
“Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor ers lansio’r cynllun ac rydym yn awr 
yn barod i ddarparu pecyn cymorth penodol i gyrff, drwy gyfrwng ein tîm, a drwy 
eu cyfeirio at gyrff arbenigol sy’n gweithio mewn partneriaeth â ni.
Mae gan bob cyngor tref a chymuned restrau o asedau cymunedol yn eu hardal leol 
y bydd, oherwydd y sefyllfa ariannol anodd, yn anodd eu cynnal yn y tymor hir. 
Anogir cyrff sy’n dymuno mynegi diddordeb i gysylltu â ni, oherwydd caiff y 
cynigion eu hystyried bob mis. Bydd paneli’n cyfarfod bob tri mis i ystyried 
cynigion ar gyfer achos busnes.  
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Ian Bancroft neu Neal Cockerton ar 01352
704511.