Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir y Fflint yn profi Llwyddiant Rhagorol o 100%
Published: 22/12/2014
Llwyddodd disgyblion Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir y Fflint i ennill marciau
rhagorol yn eu harholiadau diweddaraf gyda’r Associated Board of the Royal
Schools of Music ac arholiadau Roc a Phop Trinity College of London.
Arholwyd disgyblion dros ystod eang o offerynnau a lleisiau. Pasiwyd yr
arholiadau gan bob disgybl gyda bron hanner o’r ymgeiswyr yn derbyn y wobr
uchaf un: pasio â rhagoriaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg:
“Mae’r rhain yn ganlyniadau ardderchog. Partneriaeth sefydledig rhwng ysgolion,
rhieni, disgyblion ar Awdurdod Lleol yyw Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir y Fflint
ac mae’n ffynnu.
“Mae’r Gwasanaeth Cerddoriaeth wedi cael enw am hyfforddiant offerynnol a
lleisiol o safon uchel am amser hir, ac maer casgliad diweddaraf o
ganlyniadaun dangos bod y safonau uchel yman cael eu cynnal.
Dywedodd Aled Marshman, Rheolwr y Gwasanaeth:
“Rydw i’n falch iawn o ddoniau cerddorion ifanc Sir y Fflint ac ansawdd y dysgu
a gynigir gan Wasanaeth Cerddoriaeth Sir y Fflint. Y flwyddyn hon rydw i’n
falch i ddweud bod dros 1500 o ddisgyblion wedi derbyn hyfforddiant gan y
Gwasanaeth a bod dros 350 o ddisgyblion wedi mynychu eu hymarferion ar ôl ysgol
wythnosol a adnabyddir fel ‘Ysgol Gerdd’.”