Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Digwyddiad Siopa Nadolig Cyfeillgar i Ddementia yn y Fflint 
  		Published: 30/12/2014
Cafodd pobl â dementia syn byw mewn cartrefi preswyl yn y Fflint au 
teuluoedd, y cyfle fynd i’r stryd fawr leol i gwblhau eu siopa Nadolig gyda 
chefnogaeth a dealltwriaeth.
 
Gan weithio gydan gilydd, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a 
busnesau a sefydliadau lleol yn y Fflint yn ceisio datblygu a hyrwyddo 
Cymunedau syn Gyfeillgar i Ddementia.  Galluogodd y fenter gyntaf i bobl â 
dementia syn byw mewn cartrefi preswyl lleol i wneud eu siopa Nadolig mewn 
awyrgylch hamddenol a chefnogol. Mynychodd staff gwirfoddol a theuluoedd pobl 
syn byw yng Nghartrefi Preswyl Pen y Bryn, Bryn Edwin, Croes Atti a Rhiwlas y 
digwyddiad, gan roi cefnogaeth frwd i bobl â dementia. 
Cafodd y digwyddiad llwyddiannus ei gynllunio ai drefnu gydag Eglwysi’r Santes 
Fair a Dewi Sant, Siop Boots, Candid Cards a Llyfrgell y Fflint. Rhoddodd pob 
busnes a sefydliad cysylltiedig y cyfle i breswylwyr, eu teuluoedd a staff 
gwirfoddol ymweld a phori yn y siopau a oedd yn cymryd rhan a’u croesawu gyda 
rhoddion am ddim, lluniaeth a chefnogaeth.
Esboniodd rheolwr Boots Emma Hodnett Nid bwriad y noson oedd gwneud unrhyw 
elw, ond i barhau i weld a chefnogir rhai sydd wedi siopa yn Boots am nifer o 
flynyddoedd cyn symud i gartrefi preswyl, pan fo cyfleoedd i gael mynediad ir 
Stryd Fawr wedi lleihau. 
Cynigodd Candid Cards breswylwyr a theuluoedd lymed o sieri, mins peis a raffl 
am ddim. 
Cynhaliodd eglwys blwyf y Santes Fair a Dewi Sant Gôr Support For Working Age 
Girls and Guys (S.W.A.G) a ganodd garolau Nadolig ir preswylwyr a’u teuluoedd, 
tra bo gwirfoddolwyr yn darparu lluniaeth. Dywedodd y Parchedig Brian Harvey  
Roedd pawb a oedd yn gysylltiedig wedi mwynhaur dathliadau gydar nos ac roedd 
yn bleser i weld yr holl wenu.
Arhosodd Llyfrgell y Fflint ar agor gan ddarparu lle tawel i breswylwyr a 
theuluoedd i ymlacio a threfnodd weithgaredd crefftau Nadolig ar gyfer y rhai 
oedd eisiau noson dawelach. 
Bydd digwyddiadau yn y dyfodol yn y Fflint ym mis Ionawr, Chwefror a Mawrth fel 
rhan o gynlluniau ehangach i ddatblygur gymuned gyfeillgar i ddementia. Mae 
cynlluniaur dyfodol yn cynnwys creu cronfa cynaliadwy yn y gymuned, darparu 
hyfforddiant Cyfeillion Dementia ac achrediad Cymuned Cyfeillgar i Ddementia 
trwy weithio mewn partneriaeth agos gyda Chymdeithas Alzheimer yn Sir y Fflint.
I gael gwybod mwy, ffoniwch Luke Pickering-Jones 01352 702655 neu ewch i 
www.alzheimers.org.uk am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan gyda 
Chyfeillion Dementia Cymdeithas Alzheimer a Chymunedau Cyfeillgar i Ddementia