Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llecyn addysgol ar y gweill ym Mharc Gwepra

Published: 19/01/2015

Mae gwaith wedi dechrau i greu llecyn addysgol ym Mharc Gwepra. Mae Cyfeillion Parc Gwepra a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi sicrhau £17,000 yn ddiweddar gan fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru. Nod y fenter hon yw galluogi cyrff cymunedol a grwpiau gwirfoddol i wella’u hamgylchedd lleol. Bydd y prosiect yn ailddatblygu’r hen gwrs golff i greu man caeedig at ddibenion addysgol. Bydd yn cynnwys gweirglodd, pwll a gwlypdir, llwyfan dysgu a seddi a chysgodlen ganfas ar ffurf hwyl i warchod plant ac oedolion rhag y tywydd. Bydd gan y pwll newydd lwyfan chwilota ar gyfer pobl ag anableddau. Caiff planhigion gwlypdir eu plannu o amgylch y pwll i ddenu gwas y neidr a chreaduriaid di-asgwrn-cefn eraill. Caiff Cyfeillion Parc Gwepra a phlant ysgol lleol eu gwahodd i helpu i blannu hadau a bylbiau blodau gwyllt yn y llecyn. Caiff gwrych ei blannu hefyd ar hyd y terfyn. Bydd y lle chwarae’n cael ei wella a chaiff ffens ei chodi a gwrych ei blannu. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Bydd hwn yn gyfleuster gwych i Barc Gwepra. Rwy’n hynod falch bod y rhan hon o’r parc yn cael ei datblygu fel hyn. Bydd y llecyn yn edrych yn ardderchog ar ôl gorffen y gwaith ac rwy’n siwr y caiff ei ddefnyddio am flynyddoedd eto.” Meddai Stephen Lewis, un o Geidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint, sy’n rhoi’r prosiect ar waith: Bydd y llecyn addysgol hwn yn creu man caeedig lle gall plant ac oedolion ddysgu am y gwahanol gynefinoedd a’r ecosystemau drwy ein rhaglen ddigwyddiadau a dan arweiniad y Ceidwaid Cefn Gwlad. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned leol i roi’r prosiect cyffrous hwn ar waith ac rydym yn disgwyl y bydd yn barod erbyn mis Ebrill. Mae gwybodaeth am Barc Gwepra i’w chael yn www.flintshire.gov.uk/countryside lle mae dolen hefyd i dudalen Facebook Cyfeillion Parc Gwepra. Sylwch fod rhif ffôn Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra wedi newid; 01352 703900 yw’r rhif newydd. Delwedd Pennawd: mae gwaith ar y gweill i greu llecyn addysgol ym Mharc Gwepra :