Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newid cyflenwr ynni

Published: 16/01/2015

Gall trigolion Sir y Fflint ymuno â chynllun prynu ynni cyfunol Cymru gyfan, a ddylai eu galluogi i arbed arian ar eu biliau tanwydd. Mae Cyd Cymru yn brosiect newid cyflenwr ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Newid cyflenwr ynni ar y cyd yw pan mae nifer fawr o gartrefi’n dod at ei gilydd i brynu ynni, a thrwy wneud hynny gall Cyd Cymru drafod gwell bargeinion, syn arwain at arbedion i ddefnyddwyr. Po fwyaf o bobl syn cymryd rhan, y mwyaf ywr potensial i gael gwell bargen. Disgwylir i Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyor cynllun ddydd Mawrth (20 Ionawr). Ar ôl arwyddo Siarter y cynllun, bydd gan y Cyngor wedyn statws partner ar y cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Byddwn yn annog holl drigolion Sir y Fflint i gofrestru gyda Cyd Cymru. Drwy ymuno gydai gilydd i brynu ynni, gall cartrefi gael gwell bargeinion. Pan fyddwch yn cofrestru gyda Cyd Cymru nid oes unrhyw gost neu rwymedigaeth i newid, ond unwaith y bydd y cynnig hwn ar gael ym mis Mawrth, byddwch yn gallu gweld faint o arian allech chi ei arbed cyn i chi benderfynu a ydych am newid. Byddwch hefyd yn gallu gweld sut mae hyn yn cymharu â thariff y farchnad bresennol. Y llynedd, roedd y cynllun wedi helpu aelwydydd ledled Cymru i arbed cyfartaledd o £185 y flwyddyn ar eu biliau ynni. Gall trigolion gofrestru i dderbyn cynnig prisiau ynni heb unrhyw orfodaeth ym Mawrth naill ai ar-lein yn www.cydcymru-energy.com neu drwy ffonio 0800 093 5902.