Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Published: 16/01/2015

Bydd ymateb ardderchog cymunedau Sir y Fflint i gynllun trosglwyddo asedau cymunedol Cyngor Sir y Fflint yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ddydd Mawrth (20 Ionawr). Bydd Aelodaur Cabinet yn derbyn diweddariad ar ddatblygiad y cynllun, a gafodd ei ail-lansio ar ddechrau mis Tachwedd 2014. Mae asedau cyhoeddus syn eiddo ir Cyngor, ac syn cael eu hystyried yn addas ar gyfer trosglwyddiadau yn cynnwys caeau chwarae, mannau chwarae, canolfannau cymunedol, canolfannau ieuenctid, rhandiroedd, meysydd chwaraeon, pafiliynau, a llyfrgelloedd. Mae gan Gynghorau’r dewis i drosglwyddo adeiladau a thir i grwpiau cymunedol neu elusennol i’w rhedeg er budd y gymuned. Yn dilyn y dyddiad cau cyntaf ar gyfer datganiadau o ddiddordeb, mae ugain o gynigion ar gyfer dros 40 o asedau eisoes wedi cael eu cytuno i symud ymlaen ir cam nesaf. Y cam nesaf yw cynhyrchu achos busnes. Dim ond grwp cymunedol all wneud hyn a disgwylir iddo gymryd tua chwe mis. Y cam olaf wedyn yw cwblhau cyfreithiol a throsglwyddo’r ased. Bydd y Cabinet yn clywed bod y lefel o ddiddordeb gan grwpiau cymunedol yn parhau i fod yn uchel. Yn ogystal âr datganiadau ffurfiol o ddiddordeb, mae 47 o ymholiadau anffurfiol hefyd wedi dod i law, sy’n ymwneud â 195 o asedau syn cwmpasu 21 o ardaloedd Cynghorau Tref a Chymuned. Maer rhain wedi cynnwys cyfarfod positif diweddar gyda Chyngor Tref Cei Connah am yr asedau cymunedol yn y dref, gan gynnwys y pwll nofio; roedd yr agwedd hon yn ei hun yn creu llawer o ddiddordeb yn ystod y cyfarfod. Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn cydlynur cynllun ac yn darparu pecyn cymorth wedii deilwra ar gyfer sefydliadau, drwy dîm staff FLVC a thrwy eu cyfeirio at sefydliadau partner arbenigol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi cael ymateb positif gan lawer o’n cymunedau. Maen braf gwybod, trwy ymgysylltu ân cymunedau lleol, ein bod yn ymdrechu i ddod o hyd i atebion tymor hir fydd gobeithio yn cynnal ein gwasanaethau ac asedau lleol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer adfywio a menter gymdeithasol. Mae hyn yn gwbl hanfodol ar adeg o doriadau cyllido cenedlaethol digynsail i wasanaethau cyhoeddus. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd, a deiliad portffolio ar gyfer y cynllun: “Rydym wrth ein bodd gydar ymateb gan ein cymunedau lleol. Rydym bob amser wedi bod yn glir nad ywr mynegiant o ddiddordeb cychwynnol yn ymrwymor ymgeisydd nar Cyngor i drosglwyddo, ond maen caniatáu trafodaeth fanylach, gydar cymorth cywir i helpu ymgeiswyr. Mae hon yn broses barhaus ac anogir sefydliadau sydd yn dal yn awyddus i fynegi diddordeb i gysylltu â ni, gan yr ystyrir datganiadau o ddiddordeb yn fisol. Bydd paneli yn cael eu cynnal bob tri mis i ystyried cynigion achos busnes. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Ian Bancroft neu Neal Cockerton ar 01352 704511