Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pecyn treftadaeth a chadwraeth i ddisgyblion ysgol

Published: 12/02/2015

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint a Tata Steel Shotton wedi bod yn cydweithio i lansio pecyn addysgol newydd yn ymwneud â threftadaeth a chadwraeth ar lannau afon Dyfrdwy. Lleolir y fenter newydd yng Nghanolfan Gwenoliaid y Môr yn y gwaith dur a bydd Ceidwaid yr Arfordir yn cyflwyno pecyn o weithgareddau amgylcheddol dros dymor yr haf, yn seiliedig ar Warchodfa Natur Shotton, i ysgolion Sir y Fflint a’r tu hwnt.  Mae hyn yn cynnwys hanes a threftadaeth y gwaith dur, y cylch dwr, cadwyni bwyd, bywyd adar a phryfed, a chynefinoedd glaswelltir. “Mae’n gyfle gwych i blant ymweld â safle’r gwaith dur a dysgu am ddiwydiant a bywyd gwyllt lleol” meddai Karen Rippin, un o Geidwaid yr Arfordir. Cynigir y pecyn addysg fel rhan o raglen addysg amgylcheddol y Gwasanaeth Cefn Gwlad a leolir ym Mharc Gwepra ar hyn o bryd, a bydd yn manteisio ar brofiad y staff sy’n gweithio yno.  Tata fydd yn talu am Ganolfan Gwenoliaid y Môr a’r adnoddau addysgol i ysgolion, gan gynnwys cymorth staff ychwanegol i’r grwpiau a fydd yn ymweld â’r safle. “Bydd ein partneriaeth yn rhoi cyfle i nifer o ysgolion a disgyblion lleol weld cynefin unigryw sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol ac werthfawr iawn oherwydd ei fywyd gwyllt. Bydd y fenter hon, a fydd yn golygu’n bod yn cydweithio â’r Ceidwaid, yn  hwb enfawr i’n rhaglen i ysgolion; a byddwn i gyd yn elwa o gryfderau a phrofiadau ein gilydd,” meddai Peter Shephard, Uwch Swyddog Ynni a’r Amgylchedd Tata. Mae Ceidwaid yr Arfordir yn gobeithio y bydd cannoedd o blant ysgol yn cael cyfle i ymweld â chynefin gwenoliaid y môr yn ystod y tymor magu eleni. “Dyma enghraifft wych o’r sector cyhoeddus a phreifat yn gweithio mewn partneriaeth er lles ein  plant lleol,” meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd. “Byddwn yn annog ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu â’r Gwasanaeth Cefn Gwlad i fanteisio ar y cyfle hwn.” I gael rhagor o fanylion ac i drefnu ymweliad, anfonwch e-bost at countryside@flintshire.gov.uk.