Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Cofior Holocost 2015

Published: 27/01/2015

Cafwyd gwasanaeth coffa arbennig yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, heddiw (dydd Mawrth 27 Ionawr) i nodi Diwrnod Cofior Holocost 2015: Cadw’r Cof yn Fyw. Cynhelir Diwrnod Cofior Holocost ar 27 Ionawr pob blwyddyn. Eleni mae 70 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau ac 20 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Srebrenica, Bosnia. Dan arweiniad Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin, mynychwyd y gwasanaeth gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, Cynghorwyr Sir a gweithwyr y Cyngor a nifer o siaradwyr gwadd, gan gynnwys yr Arglwydd Barry Jones a’r Fonesig Janet Jones, Tim Feak o’r Eglwys yng Nghymru, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett ar Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Sir y Fflint. Roedd disgyblion Ysgol Uwchradd y Fflint hefyd yn bresennol. Cafodd yr ysgol ei dewis fel un o’r 70 lleoliad yn y Deyrnas Unedig i gynnal seremonïau arbennig i oleuo cannwyll wedi ei chynllunio’n arbennig ar gyfer y digwyddiad a daeth y disgyblion â’r gannwyll efo nhw i’r gwasanaeth cofio. Dywedodd y Cynghorydd Diskin: “Fel Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint roedd yn fraint cael cynnal y gwasanaeth coffa arbennig heddiw. Mae Diwrnod Cofior Holocost yn amser i bawb ddod at ei gilydd a chofior gorffennol ac ystyried yr hyn fedrwn ni ei wneud i herio casineb a chreu dyfodol gwell a diogelach. “Rydym ni’n cadw’r cof yn fyw ar ein cyfer ni ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Ysgol Uwchradd y Fflint yn enghraifft ardderchog o hyn ac rydw i’n falch iawn bod y myfyrwyr wedi ymuno â ni heddiw.” Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofior Holocost yn http://hmd.org.uk Llun: