Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai am ddim i yrwyr hyn

Published: 28/01/2015

Mae sesiynau gyrru am ddim yn cael eu cynnig i yrwyr dros 65 oed. Mae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal gweithdai am ddim i bobl dros 65 oed i roi cyfle iddynt gael asesiad gyrru am ddim a dysgu rhagor. Mae Hyfforddwyr y Gwasanaeth Asesu Sgiliau Symud a Gyrru yn cynnig awgrymiadau defnyddiol ynghylch addasu’ch dull o yrru wrth i chi heneiddio, gan helpu i’ch cadw chi a phobl eraill ar y ffordd yn ddiogel, ac i sicrhau’ch bod yn gallu parhau i eistedd y tu ôl i’r llyw. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Byddwn yn annog pobl dros 65 oed i fanteisio ar y cyfle hwn i gael sesiwn gyrru am ddim. Wrth i ni heneiddio, mae’n cyrff yn newid mewn ffordd sy’n gallu effeithio ar y modd rydym yn gyrru. Mae’r rhain yn cynnwys y posibilrwydd ein bod yn cymryd mwy o amser i ymateb, a gall gyrru fod yn fwy blinedig a chreu mwy o straen i ni. Bydd rhai’n sylwi ar y newidiadau hyn yng nghanol eu pumdegau. Wrth i ni heneiddio, gall y mwyafrif ohonom yrru’n ddiogel heb unrhyw broblemau, ond mae’n haws gwneud hynny gyda chymorth gyrrwr proffesiynol.” Mae gweithdy am ddim ddydd Mercher 11 Chwefror am 1.30pm yn Clwyd Theatr Cymru, yr Wyddgrug. I neilltuo lle, neu i gael gwybod rhagor, ffoniwch yr Uned Diogelwch Ffyrdd ar 01352 704498