Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Beicio ir Gwaith

Published: 04/02/2015

Mae Cynllun Beicio i’r Gwaith Cyngor Sir y Fflint yn ôl a bydd cyfle i ymuno â’r cynllun rhwng 9 Chwefror a 27 Chwefror 2015. Cynllun sydd wedi’i eithrio rhag treth ac yswiriant gwladol yw’r Cynllun Beicio i’r Gwaith i annog pobl i deithio i’r gwaith mewn ffordd iachach gan leihau llygredd a thagfeydd. Drwy gymryd rhan yn y cynllun, gall gweithwyr arbed hyd at 25 y cant oddi ar gost beic drwy’r trethi a’r cyfraniadau yswiriant gwladol y byddant yn ei dalu, gan ddibynnu ar eu band treth incwm. Nod y Cyngor yw dangos manteision y Cynllun Beicio i’r Gwaith ac annog cyflogwyr eraill i gynnig dull arall o deithio i’r gwaith i’w staff gan hyrwyddo beicio fel rhan o ffordd iach o fyw bob dydd. Gall cyflogwyr o bob maint yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol weithredu cynllun benthyca di-dreth i’w staff. Aeth Cyngor Sir y Fflint ati, ar y cyd â P & MM, asiantaeth gwasanaethau marchnata sy’n arbenigo mewn gwella perfformiad, i lansio’r cynllun ym mis Awst 2009 yn wreiddiol. Ers hynny, mae tua 340 wëid cymryd rhan yn y cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae manteision lu i’r cynllun Beicio i’r Gwaith, o wella iechyd i helpu’r amgylchedd. Mae’r Cyngor wedi bod yn rhan o’r cynllun ers pedair blynedd a byddwn yn annog unrhyw un sy’n gallu, i ymuno a beicio i’r gwaith. Waeth beth yw maint eich busnes, gall bawb ymuno a byddwn yn ei argymell i holl gyflogwyr y Sir.” Gall gweithwyr y Cyngor gofrestru i gymryd rhan yn y Cynllun Beicio i’r Gwaith rhwng 9 Chwefror a 27 Chwefror 2015. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Beicio i’r Gwaith, ewch i wefan yr Adran Drafnidiaeth: http://www.dft.gov.uk/pgr/sustainable/cycling/cycletoworkguidance/