Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffurflenni electronig ar-lein ar gyfer y Dreth Gyngor

Published: 04/02/2015

Mae gwasanaeth trethi Cyngor Sir y Fflint wedi gwella ei wefan gyda chyfres o e-ffurflenni electronig newydd. Gall cwsmeriaid bellach wneud newidiadau i’w Treth Gyngor yn gyfan gwbl ar-lein. Mae’r gwasanaeth newydd hwn ar gael bob awr o’r dydd, bob dydd o’r wythnos a bydd yn arbed costau galwadau ffôn a llythyrau i gwsmeriaid sydd am gysylltu â’r gwasanaeth. Yn y pythefnos cyntaf, mae dros 100 o ffurflenni cais electronig eisoes wedi’u derbyn ac mae 75% o’r cwsmeriaid hynny hefyd yn dewis derbyn eu bil Treth Gyngor ar-lein. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros Gyllid: “Mae ffurflenni electronig ar gyfer y Dreth Gyngor yn cyflwyno gwasanaeth ychwanegol i drigolion Sir y Fflint. Mae’n arbed costau i drethdalwyr sy’n dymuno rhoi gwybod i’r adran am newidiadau ahefyd yn helpu i ostwng costau gweinyddol.” Am fwy o wybodaeth edrychwch ar www.siryfflint.gov.uk/ctforms