Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hyfforddiant am ddim ar gyfer busnesau Canol Tref Treffynnon

Published: 10/02/2015

Hyfforddiant am ddim ar gyfer busnesau Canol Tref Treffynnon. Mae busnesau canol tref Treffynnon yn cael eu hannog i fynychu dwy sesiwn hyfforddi am ddim a gaiff eu cynnal yn y dref cyn hir. Ddydd Mawrth 24 Chwefror, bydd Coleg Cambria yn darparu sesiwn ar Farchnata a Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid. Yna, ddydd Mawrth, 3 Mawrth bydd yr Academi Sgiliau Manwerthu yng Ngholeg Llandrillo yn cynnal sesiwn or enw Ymgysylltu â’ch cwsmeriaid yn yr 21ain ganrif. Maer ddau gwrs yn cael eu darparu, diolch i gefnogaeth gan gronfa Partneriaethau Trefi Llywodraeth Cymru. Byddant yn rhedeg o 5.30pm - 7.30pm a byddant yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Treffynnon. Gwahoddir busnesau canol tref Treffynnon i fynychu un neur ddwy sesiwn. Mae Karen Lloyd o The Flower Bowl yn y dref yn aelod o Grwp Busnes anffurfiol Treffynnon. Dywedodd: “Dwin meddwl bod y cyrsiau hyfforddiant byr hyn yn dda iawn. Er fy mod i wedi rhedeg fy musnes fy hun am nifer o flynyddoedd mae yna bob amser bethau newydd i’w dysgu ac maen dda i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau ar syniadau diweddaraf.” Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae hwn yn gyfle gwych ac maer hyfforddiant am ddim i unrhyw fusnes yng nghanol tref Treffynnon. Fodd bynnag, mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid archebu ymlaen llaw. Gallwch archebu eich lle trwy gysylltu â Clare Madders, Swyddog Prosiect Adfywio yng Nghyngor Sir y Fflint drwy e-bost yn clare.madders@flintshire.gov.uk neu dros y ffôn ar 01352 703225.”