Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu gwyddoniaeth a mathemateg yn Ysgol Caer Nant

Published: 03/03/2015

Cynhaliwyd digwyddiad cyflwyno gwobrau yn Ysgol Caer Nant, Cei Cona’n ddiweddar, i ddathlu llwyddiant cyfres o weithdai’n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar gyfer plant o flwyddyn pump a chwech. Diben y gweithdai oedd annog a chodi dyheadau’r disgyblion mewn pynciau sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg er mwyn iddynt edrych ar y pynciau hynny mewn goleuni cadarnhaol yn yr ysgol uwchradd a thu hwnt i hynny, gan weithio tuag at yrfa bosibl. Darparwyd y gweithdai gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg mewn partneriaeth â Chlwstwr Dwyreiniol Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a SARN Associates. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, a fynychodd ar y noson: “Roedd yn bleser cael mynychur noson a chyflwyno gwobrau ir plant, a ddangosodd lawer o frwdfrydedd yn ystod y gweithdai, yn enwedig wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau. Fe fuon nhw’n cynhyrchu gwres a golau’n defnyddio bwlb bach bach a batri, yn gwneud i bethau symud drwy gysylltu olwynion danheddog ac echelydd, gan ddefnyddio mathemateg i gyfrifo’r gymhareb a’r cyflymder. Bu’r disgyblion hefyd yn dylunio posteri’n ymwneud â pheirianneg fel rhan or prosiect. Rhoddodd y digwyddiad cyflwyno yn yr ysgol gyfle i’r plant ddangos i’w rhieni y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Llun Yn y llun o’r noson gyflwyno mae Anita, Ella, Lewis, Kristof a Jamie-Lee, gyda’r Tiwtor Dave Evans, Christine Gilholm (Cyngor Sir y Fflint) a’r Cynghorydd Aaron Shotton.