Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fforwm Rhanbarthol Teithio Ymlaen

Published: 09/03/2015

Cynhaliwyd fforwm rhanbarthol syn dod â Sipsiwn a Theithwyr ifanc ynghyd â phenderfynwyr allweddol mewn materion addysg a phlant yn ddiweddar. Maer Fforwm Rhanbarthol Teithio Ymlaen yn cael ei gynnal gan Achub y Plant ac maen cynnwys Sipsiwn a Theithwyr ifanc o Sir y Fflint a Wrecsam a gefnogir gan Wasanaeth Addysg i Deithwyr Sir y Fflint a Wrecsam a Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint. Fei cynhaliwyd yng Nghanolfan Ieuenctid yn Ysgol Uwchradd John Summers yn Queensferry. Ymunwyd â’r Fforwm gan Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru, Eleri Thomas; Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint, Ian Budd a Phennaeth Ysgol Uwchradd John Summers, Paula Stanford. Cymerodd y Dirprwy Gomisiynydd Plant amser hefyd i longyfarch Sipsiwn a Theithwyr Ifanc Sir y Fflint sydd hefyd yn rhan o Grwp Dimensiwn Teithwyr Ysbrydoledig, ar y gwaith a wnânt ar gyfer eu cymuned leol, syn cynnwys codi arian ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Roedd hwn yn ddigwyddiad rhagorol. Yn ystod y dydd gweithiodd y Fforwm i archwilio addysg Sipsiwn a Theithwyr. Roedd yn gyfle gwych i Sipsiwn a Theithwyr ifanc drafod materion syn effeithio arnyn nhw gyda rhai or rhai syn gwneud penderfyniadau allweddol yn y sir a thu hwnt. Dywedodd Sarah Davies, Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Sir y Fflint: “Ar y cyfan, cafodd pawb ddiwrnod gwirioneddol ddifyr. Yn y prynhawn, roedd y bobl ifanc hefyd wedi mwynhau trip sglefrio iâ. Llun