Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trip Catalyst

Published: 30/05/2014

Cafodd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd John Summers y cyfle i ymweld â chanolfan wyddoniaeth ryngweithiol fel rhan o ymgyrch i annog disgyblion i ymgymryd â gyrfaoedd sydd wedi’u seilio ar wyddoniaeth yn yr ardal leol. Fe wnaeth BASF, sydd â’i leoliad ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, noddi’r trip i 49 o ddisgyblion o flwyddyn 9 ymweld â Catalyst yn Widnes, ble bu iddynt gymryd rhan mewn arbrofion gwyddoniaeth hunangymhellol a gorffen trwy fwynhau sioe gemeg ryngweithiol ‘Flash Bang’. Dechreuodd cysylltiad y cwmni â’r ysgol ar ôl mynychu digwyddiad rhwydweithio a drefnwyd gan Teresa Allen, Swyddog Arweiniol ar gyfer Dysgu, Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Sir y Fflint, a gynhaliwyd yn yr ysgol uwchradd ym mis Tachwedd. Cydnabuwyd yn genedlaethol fod busnesau sydd wedi’u seilio ar STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn dioddef yn sylweddol gan brinder merched yn dod i mewn i’r diwydiant ac mae gan BASF ddiddordeb mewn helpu i gau’r bwlch trwy ddangos sut y mae gwyddoniaeth yn rhan o fywyd pob dydd. Mae’r cwmni cemegol wedi rhoddi 30 o werslyfrau gwyddoniaeth i’r ysgol yn barod a gallai mentrau yn y dyfodol gynnwys mwy o noddi tripiau, teithiau o amgylch ffatrïoedd, lleoliadau gwaith a hyfforddiant sgiliau bywyd. Meddai Julie Bellis, Rheolwr Dysgu ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ac athrawes gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd John Summers: “Mae hwn yn gyfle ardderchog, fe wnaeth y disgyblion wir fwynhau’r profiad a byddem yn hoffi dweud diolch wrth BASF am weithio gyda ni yn awr ac ar brosiectau yn y dyfodol gobeithio.” Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae’n wych gweld busnes rhyngwladol yn cymryd diddordeb yn nyfodol pobl ifanc lleol. Diolch i BASF, mae’r plant yn gweld ochr wahanol i wyddoniaeth ac fe allent ddewis hyn yn yrfa.” Gall unrhyw gwmni yn ardal Glannau Dyfrdwy sydd â ffocws penodol ar y diwydiannau STEM ac a hoffai gymryd rhan yn y fenter hon gysylltu â Teresa Allen ar 01244 846090. Capsiwn y llun: John Pearce ac Anna Roberts o BASF yn y llun gyda’r disgyblion y tu allan i Catalyst.