Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfar Cyngor a Phennu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2015-16

Published: 18/02/2015

Cronfa’r Cyngor Eleni, maer Cyngor wedi gorfod cyrraedd targed arbedion o dros £18 miliwn o ganlyniad i ostyngiad pellach yng nghymorth grant y Llywodraeth. Daw hyn ar ôl gorfod dod o hyd i dros £20 miliwn o arbedion y ddwy flynedd ddiwethaf. Y targed arbedion ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd yw 7.3% o gyllideb net y Cyngor. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton “Rydym ni wedi pennu nod clir fel Gweinyddiaeth y Cyngor y byddem yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen i gymunedau er gwaethaf y pwysau cyllidebol cynyddol. Er bod rhai cynigion heriol yn y gyllideb, fel y gellid disgwyl, rydym ni wedi cyrraedd ein nod i raddau helaeth.” Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton “Dydi hyn ddim wedi bod yn hawdd. Maer Cabinet wedi arwain y ffordd gyda chefnogaeth lawn ei swyddogion a hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad or cymorth y mae’r holl gynghorwyr wedi ei ddarparu a diolchaf iddyn nhw am gydweithio er lles Sir y Fflint ai thrigolion. Ar ddiwedd y dydd, maen rhaid i ni bennu cyllideb gytbwys yn ôl y gyfraith, a thrwy weithio gydan gilydd rydym ni wedi llwyddo i wneud hynny.” Daw’r rhan fwyaf or arbedion yn sgil symleiddior Cyngor ac arbed costau. Dyma yw ymagwedd y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf. Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Colin Everett, air o rybudd gan ddweud “Rydym ni wedi gorfod canfod arbedion o oddeutu £40 miliwn yn y tair cyllideb ddiwethaf. Yn seiliedig ar y rhagfynegiadau diweddaraf o effeithiau disgwyliedig rhaglen galedi’r Deyrnas Unedig ar sector cyhoeddus yng Nghymru, bydd yn rhaid ir Cyngor ddod o hyd i £30 miliwn pellach yn ystod 2016-17 a 2017-18. Bydd yn rhaid i ni hefyd ddod yn fwy creadigol a radical pob blwyddyn. Ni fyddwn yn cyflawni’r arbedion sydd eu hangen drwy arferion gweithio mwy deallus yn unig. Dyma pam rydym ni wedi bod yn apelio at gymunedau i weithio efo ni dan ein rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol.” Fel y dywedodd y Cynghorydd Shotton “i gefnogi datganiad angerddol Prif Weinidog Cymrur penwythnos diwethaf, mae terfyn i’r hyn y gall ein gwasanaethau cyhoeddus eu cymryd yn wyneb y toriadau blynyddol. Maen rhaid cael terfyn ar y toriadau yn y gyllideb ar lefel y Deyrnas Unedig os ydym am osgoi canlyniadau trychinebus mewn blynyddoedd i ddod. Dim ond hyn a hyn fedrwn ni ei wneud heb ryddhad ariannol. Maen rhaid i ni gael digon o arian i ddiwallu anghenion Sir y Fflint.” Cyfrif Refeniw Tai Yn dilyn penderfyniad tenantiaid Cyngor Sir y Fflint i aros gydar Cyngor yn 2012, yn hytrach na chael eu trosglwyddo i landlord cymdeithasol newydd, mae Gwasanaeth Tair Cyngor wedi mynd o nerth i nerth. Maer gwasanaeth tai wedi gwella’n sylweddol ac yn rhoi gwasanaeth dydd i ddydd gwell i denantiaid yn ogystal â chynhyrchu arian ychwanegol, drwy weithio’n ddoethach ac yn fwy effeithlon, a gwario ar welliannau ir cartref ac atgyweiriadau. Eleni, bydd y Cyngor yn gwario cyllideb flynyddol o £20 miliwn ar welliannau i gartrefi ac erbyn 2020 bydd pob cartref yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Shotton “Rydym ni wedi bod ar daith gydan tenantiaid. Mae gennym ni bellach wasanaeth llawer gwell ond, am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, rydym yn bwriadu adeiladu tai Cyngor newydd fel rhan o’n cytundeb ariannu efo Llywodraeth Cymru. Er gwaethaf yr holl ofid o galedi yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn newyddion da i bobl Sir y Fflint.” Ychwanegodd Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet, “Rydym ni wedi ailennill ymddiriedaeth ein tenantiaid drwy ddatblygu’r gwasanaeth. Mae popeth rydym ni’n bwriadu ei wneud o ran gwario ein harian ar wella cartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei wneud mewn ymgynghoriad agos â thenantiaid a Chynghorwyr. Rydym ni’n gweithio gydan gilydd fel tîm cryf ac rydw i’n falch iawn on llwyddiannau.” Meddai Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Bernie Attridge “Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol ar gyfer Sir y Fflint. Mae gennym ni weledigaeth ar gyfer dyfodol tai Cyngor y Sir ac maer buddsoddiad gwerth miliynau yn ein stoc tai o dros 7000 yn y pum mlynedd nesaf yn creu gwaith a swyddi i gwmnïau lleol.” Bydd rhenti Cyngor yn codi yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i ddod â rhenti cynghorau a chymdeithasau tai yn unol âi gilydd ar draws Cymru. Bydd taliadau gwasanaeth yn parhau i fod yn deg ac yn fforddiadwy, fel yr addawyd i denantiaid y Cyngor yn ôl yn 2012 pan fu iddyn nhw bleid