Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg Canol Trefi

Published: 25/02/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi comisiynu BMG Research i gynnal arolwg o gartrefi yn Sir y Fflint. Bydd BMG yn gofyn i drigolion sut maent yn defnyddio canol trefi yn ac o amgylch Sir y Fflint ac yn gofyn am eu barn am y trefi a’u lefel o foddhad. Bydd y cwmni yn anelu at gael barn 500 o gartrefi a ddewiswyd ar hap dros y ffôn yn ystod diwedd mis Chwefror a dechrau Mawrth. Bydd y Cyngor yn defnyddior gwaith ymchwil hwn i lywio rhaglen gefnogaeth ar gyfer canol trefi yn y dyfodol a bydd y canfyddiadau dienw ar gael ar wefan y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae canol trefi ar draws y DU yn wynebu cyfnod economaidd heriol. Mae cefnogi canol trefi yn flaenoriaeth strategol ir Cyngor ac maen hanfodol bod y gwaith hwn wedi ei lywio gan dystiolaeth gadarn. Mae barn preswylwyr yn rhan bwysig o hyn, a gobeithio y bydd trigolion yn cymryd y cyfle i rannu eu barn am ganol trefi os bydd BMG yn cysylltu â nhw.