Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Chwifio Baner y Gymanwlad a Chreu Hanes

Published: 06/03/2015

Ddydd Llun 9 Mawrth, Diwrnod y Gymanwlad 2015, bydd mwy na 730 o faneri’r Gymanwlad yn cael eu codi ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig, a gwledydd y Gymanwlad. Bydd Penaethiaid Gwladol a Phrif Weinidogion; Arglwyddi Maer a Meiri; Cynghorau Tref ac Awdurdodau Lleol; plant ysgol a myfyrwyr coleg; aelodau Girlguiding a Sgowtiaid o bob cwr or Deyrnas Unedig ar Gymanwlad; Cadetiaid Môr, Byddin ac Awyr; elusennau a grwpiau cymunedol; Cyn-Filwyr y Gymanwlad a llinellau llongau mawr, a llawer o bobl eraill ar draws y byd yn ymuno i godi mwy na 730 o faneri’r Gymanwlad am 10am ddydd Llun 9 Mawrth 2015 i ddathlu’r teulu anhygoel hwn sy’n cylchynu’r byd. Bydd Datganiad y Gymanwlad, wedi ei ysgrifennu’n arbennig gan y Frenhines, yn cael ei ddarllen yn uchel ym mhob seremoni cyn codi baner y Gymanwlad am 10am. Yn Sir y Fflint, bydd y Datganiad yn cael ei ddarllen gan y Dirprwy Arglwydd Raglaw Clwyd, Philip Eyton-Jones. Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Glenys Diskin. Meddair Cynghorydd Glenys Diskin: “Mae codi Baner y Gymanwlad ar ran Cyngor Sir y Fflint ar Ddiwrnod y Gymanwlad yn anrhydedd i mi. Rydw i’n siwr y bydd y fenter hon, sy’n uno cymunedau mewn un digwyddiad lle bydd y faner yn cael ei chodi gan bawb ar yr un pryd, yn codi ymwybyddiaeth pobl or Gymanwlad ar hyn y maen ei gynrychioli i bawb, boed trwy sefydliadau lleol, cenedlaethol neu elusennol. Maer fenter unigryw hon, sy’n cael ei chynnal am yr ail flwyddyn, yn dal dychymyg miloedd o gyfranogwyr o bob cefndir ac yn eu hysbrydoli i ymuno ag eraill ar draws y Gymanwlad. Fel mynegiant cyhoeddus ar y cyd o ymrwymiad ir Gymanwlad, maen galluogi cyfranogwyr i ddangos eu gwerthfawrogiad o werthoedd y Gymanwlad, ar cyfleoedd a gynigir ar gyfer cyfeillgarwch a chydweithredu gyda chyd-ddinasyddion y Gymanwlad o amgylch y byd. Bydd neges bersonol gan Ei Ardderchowgrwydd Kamalesh Sharma, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad yn cael ei darllen yn uchel ym mhob seremoni. Mewn gweithred gyffredin gyda thystion o amgylch y byd, bydd aelodaur teulu hwn yn ailddatgan ymrwymiad holl aelod-wladwriaethau’r Gymanwlad i ddemocratiaeth, datblygu, a pharch at amrywiaeth. Mewn partneriaeth ryngwladol llawn dychymyg, bydd timau elusennol Fields of Life, elusen syn cysylltu Gogledd Iwerddon ac Uganda, yn nodir diwrnod drwy fynd â Baner y Gymanwlad i gopaon y pedwar mynydd uchaf yn y Deyrnas Unedig: yr Wyddfa yng Nghymru; Scafell Pike yn Lloegr; Ben Nevis yn yr Alban; a Slieve Donard yng Ngogledd Iwerddon. Byddant hefyd yn codir faner mewn pum ysgol, un ym mhob un o bum Rhanbarth Uganda. Bydd yr ymdrechion hyn yn codi arian ac ymwybyddiaeth or achos teilwng. Dywedodd Bruno Peek, LVO, OBE OPR, Meistr Pasiant ‘Chwifio Baner dros y Gymanwlad’: “Rydw i wedi synnu ar ba mor gyflym y mae’r digwyddiad hwn wedi dal dychymyg y cyhoedd mewn cymaint o wledydd y Gymanwlad. Dyma’r ail flwyddyn ac mae nifer y bobl, o bob lliw a llun, sy’n cymryd rhan yn dangos potensial enfawr y prosiect hwn a’r Gymanwlad. Maen codi ysbryd pobl ac yn ffordd gadarnhaol i bobl gysylltu â chyd-ddinasyddion y Gymanwlad mewn teulu syn pontio ar draws cefnforoedd a chyfandiroedd. Mae gwir ymdeimlad o addewid a gobaith ar gyfer y dyfodol. Rydw i’n arbennig o falch bod Doodle, cwmni newydd yn y Deyrnas Unedig, wedi ymuno a’r prosiect hwn fel noddwr y Polyn Baner a Baner y Gymanwlad fydd yn cael eu gosod y tu allan i ddrws gorllewinol mawreddog Abaty San Steffan, Llundain. Bydd y faner hon yn cael ei chodi cyn dechrau Cadwraeth y Gymanwlad y diwrnod hwnnw.” Dywedodd Ei Ardderchowgrwydd Kamalesh Sharma, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad: “Mae Chwifio Baner dros y Gymanwlad yn ffordd ddychmygus i bobl mewn cymunedau lleol - ble bynnag y maent yn byw, dysgu neu weithio - i ymuno âi gilydd a chydag eraill ar draws y Gymanwlad mewn ysbryd o barch a dealltwriaeth i ddathlu amrywiaeth ein teulu byd-eang. Rydw i’n ei groesawu ac yn ei ganmol.” “Gall ein holl ddinasyddion, yn enwedig pobl ifanc, fynegi eu gwerthfawrogiad o’r Gymanwlad ar gwerthoedd y maen eu harfer fel y nodir yn Siarter y Gymanwlad, ar cyfleoedd cyfoethog maen ei gynnig i gefnogi cynhwysiad cymdeithasol a chynnydd economaidd.” NODYN I OLYGYDDION Bruno Peek LVO OBE OPR Meistr Pasiant Chwifio Baner Dros y Gymanwlad, ffôn: 07737 262 913 E-bost: pageantmaster@mac.com Ysgrifennydd y Gymanwlad David Banks – Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus yr Ysgrifennydd Cyffredinol Ffôn: 0207 747 6130 - 07770 400 031 E-bost: d.banks@commonwealth.int