Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Bws Cerdded ir Ysgol yn un poblogaidd
  		Published: 03/03/2015
Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn helpu disgyblion 
yn Ysgol Gynradd Queensferry i gyrraedd yr ysgol yn ddiogel.
Mewn ymdrech i ostwng tagfeydd a gwella diogelwch ar y ffyrdd, mae’r Uned wedi 
helpu’r ysgol i sefydlu ‘Bws Cerdded’ sy’n ffordd o gael plant ifanc i fwynhau 
cerdded i’r ysgol yn rheolaidd.
Meddai Mrs Cathryn Lloyd, Pennaeth Ysgol Gynradd Queensferry: 
Mae’r Bws Cerdded yn llwyddiant mawr.  Mae Miss Emma Westwood a Mrs Louise 
Salmon wedi bod yn gweithredu’r bws ers mis Hydref 2014 ynghyd â Ms Anita White 
sy’n rhiant gwirfoddol.  Mae nifer y plant wedi codi’n raddol gan ei fod yn 
ddull hwyliog ac actif o gludo plant i’r ysgol ac mae’n ffordd o gynorthwyo’r 
rhieni/gofalwyr.  Rydym hefyd wedi sylwi ar welliant mewn lefelau presenoldeb a 
bod y plant yn cyrraedd yr ysgol yn barod i ddysgu ar ddechrau’r dydd.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg a ymunodd â’r 
plant ar y Bws Cerdded:
”Roedd yn hyfryd cael bod yn rhan o’r Bws Cerdded a gweld y manteision i blant 
ysgol â’m llygaid fy hun.  Mae’n ffordd ddelfrydol o osgoi mynd i’r ysgol yn y 
car ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n nod o ostwng lefelau traffig a thagfeydd 
ar ffyrdd a darparu llwybrau cerdded mwy diogel.  Mae hefyd yn ymarfer corff 
addas i blant sy’n bwysig er mwyn sicrhau ffyrdd iach o fyw.  Byddwn yn annog 
pob ysgol i greu un.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd a 
Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Yn Sir y Fflint credwn fod y Bws Cerdded yn haeddu ein cefnogaeth gan ei fod 
mor llesol mewn gwahanol ffyrdd; nid yn unig y mae’n llai o waith i rieni yn y 
bore, ond mae hefyd yn galluogi plant i gyrraedd yr ysgol bob dydd mewn dull 
iach ac addysgol sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.”
Cefndir y bws cerdded
Bydd y cydgysylltydd yn sicrhau bod o leiaf dau gynorthwy-ydd sy’n oedolion ar 
y bws, un ar y blaen (y ‘gyrrwr’) ac un ar y cefn (y tywysydd).  Hefyd bydd un 
helpwr i bob pum plentyn, sy’n cerdded ar hyd llwybr penodol gan gasglu pob 
plentyn sy’n aros wrth ‘safleoedd bws’ penodol a cherdded gyda nhw i’r ysgol.  
Ar ôl ysgol, maent yn cerdded yn ôl ar hyd yr un llwybr. 
Mae’r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn hyrwyddo ac yn annog pob ysgol gynradd i 
ystyried trefnu Bws Cerdded yn eu hysgol.  Cysylltwch ag Uned Diogelwch ar y 
Ffyrdd Sir y Fflint ar 01352 704529 os oes gennych ddiddordeb.
Llun
Yn y llun yn defnyddio’r Bws Cerdded mae disgyblion yr ysgol a’u helpwyr o 
Ysgol Gynradd Queensferry, ynghyd â’r Cynghorydd Chris Bithell.