Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Datblygu Lleol

Published: 04/03/2015

Bydd cyfnod ymgynghori o chwe wythnos ar ddogfennau yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol y Cyngor sy’n fod i ddechrau ar ddydd Llun 9 Mawrth, a chyda’r bwriad i orffen ar ddydd Llun 20 Ebrill 2015. Fel rhan o’r gwaith i baratoir CDLl, bydd y Cyngor yn rhyddhau cynifer o ddogfennau allweddol cyn gynted â phosib y Gofrestr Safleoedd Posibl, Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeiswyr, Papur Cefndir a Phapurau Pwnc sy’n cynnwys amrywiaeth o faterion. Mae’r gwaith yn cynrychioli dechrau cyfnod lle bydd y Cyngor yn ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn ymgynghori â nhw yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol er mwyn nodi materion sydd angen sylw gan y Cynllun, y weledigaeth a’r amcanion sy’n nodir hyn y maer Cynllun yn ceisio ei gyflawni, ac amrywiaeth o opsiynau iw hystyried yn nhermau lefel y twf a dosbarthu’r twf hynny. Ymgynghorir ag aelodau or cyhoedd ar Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol, Papur Cefndir a Phapurau Pwnc. Bydd y gwaith hwn yn arwain at gyhoeddi ac ymgynghori ar gopi drafft o’r CDLl cyn-adneuo a fydd yn cynnwys y strategaeth a ffefrir ar gyfer y Cynllun yn ogystal â pholisïau allweddol a chynigion penodol. Y dogfennau syn cael eu rhyddhau yw: i) Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol Maer Cyngor yn cyhoeddi Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn dilyn y Galwad yn 2014 am Safleoedd Ymgeisiol. Maer Gofrestr yn cynnwys 734 o safleoedd sydd wedi eu cyflwyno gan ddatblygwyr, tirfeddianwyr neu bartïon eraill â diddordeb i gael eu hystyried gan y Cyngor naill ai i i gael eu clustnodi ar gyfer datblygu neu i gael eu diogelu rhag datblygiad. Trwy gyhoeddir Gofrestr nid yw hynny’n awgrymu y bydd y safleoedd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun, dim ond eu bod wedi bod eu cyflwyno ir Cyngor iw hasesu. Maer Gofrestr yn cael ei ddarparu er mwyn rhoi gwybodaeth yn unig ac nid ywn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol. Felly, nid ywr Cyngor yn gwahodd sylwadau ar y safleoedd. ii) Papur Cefndir Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol I gyd-fynd âr Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol, maer Cyngor yn cyhoeddi Papur Cefndir ar gyfer ymgynghori sy’n nodi sut y bydd y Safleoedd Ymgeisiol yn cael eu hasesu. Bydd hyn yn destun ymarfer ymgynghori 6 wythnos o hyd gan fod y Cyngor yn awyddus i sicrhau bod Consensws eang ynghylch sut y bydd y Safleoedd Ymgeisiol yn cael eu hasesu. iii) Papurau Pwnc Mae cyfres o 18 o Bapurau Pwnc wedi cael eu paratoi sy’n cynnwys amrywiaeth o faterion. Mae pob Papur Pwnc yn nodi materion i fynd ir afael â nhw wrth baratoir CDLl, yn ogystal â gosod allan canllawiau cynllunio cenedlaethol ar y pwnc hwnnw. Maer Papurau Pwnc hefyd yn destun ymarfer ymgynghori 6 wythnos er mwyn sicrhau barn y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol o ran sut y dylid mynd i’r afael â gwahanol bynciau a materion cysylltiedig wrth baratoir Cynllun. Bydd yr holl ddogfennau ar gael ar wefan y Cyngor ac ar gopi caled yn Swyddfeydd a llyfrgelloedd y Cyngor. Dylai sylwadau gael eu hanfon ymlaen at developmentplans@flintshire.gov.uk