Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plannu gwrychoedd yn ardal addysg newydd Parc Gwepra

Published: 10/03/2015

?Mae gwaith yn prysuro i ddatblygu ardal addysg ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah. Yn ddiweddar, bu Ceidwaid o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, gwirfoddolwyr a chyfeillion Parc Gwepra yn cymryd rhan mewn digwyddiad i blannu gwrychoedd, i blannu 100 metr o wrych yn rhan o’r prosiect. Derbyniodd Cyfeillion Parc Gwepra a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint £17,000 yn ddiweddar o fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru er mwyn galluogi mudiadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol i wella ansawdd eu hamgylchedd lleol. Maer prosiect yn ailddatblygu rhan o hen gwrs golff i ddarparu man amgaeedig yn arbennig at ddefnydd addysgol. Bydd yn cynnwys dôl, pwll a gwlyptir, adran addysgu wedi’i godi oddi ar y llawr gyda seddi, a hwyl cynfas i ochel rhag y tywydd. Bydd gan y pwll newydd ei chreu, blatfform ymdrochi er mwyn i bobl ag anableddau allu cael mynediad. Bydd planhigion pwll gwlyptir yn cael eu plannu o amgylch y pwll i ddenu gweision y neidr ac anifeiliaid di-asgwrn cefn pwll eraill. Bydd yr ardal chwarae bresennol yn cael ei wella hefyd, ac fe osodir ffens a gwrych. Dywedodd Mike Goodall, Cadeirydd Cyfeillion Parc Gwepra: Roeddem yn falch iawn o gymryd rhan yn y digwyddiad plannu gwrych yn yr ardal addysg newydd ym Mharc Gwepra. Cafodd tua 100 metr o wrychoedd newydd eu plannu gydag amrywiaeth o rywogaethau yn cael eu dewis am eu heffaith bio amrywiaeth cadarnhaol. Nid gwarchod yr ardal yn unig y bydd y gwrych, ond bydd yn darparu lloches a bwyd ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau, yn enwedig yn yr hydref. Maen hanfodol ein bod yn darparu ac yn datblygu ardaloedd or fath er mwyn annog pobl ifanc i gymryd diddordeb gweithgar yn eu hamgylchedd a dysgu am bwysigrwydd cadwraeth. Diolch yn fawr i Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint am lwyfannu digwyddiad mor wych. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Bydd hwn yn gyfleuster gwych i Barc Gwepra ar ôl ei gwblhau. Dwi’n arbennig o falch bod ardal annatblygedig or parc yn cael ei wella fel hyn. Bydd yr ardal yn edrych yn wych pan gaiff ei orffen ac rwy’n sicr y bydd yn cael ei ddefnyddio am flynyddoedd i ddod. Dywedodd Stephen Lewis, Ceidwad Cefn Gwlad ar gyfer Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, syn cyflwynor prosiect: “Maer ardal addysg yn mynd i ddarparu man amgaeedig lle bydd modd i blant ac oedolion ddysgu am amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ac ecosystemau drwy ein rhaglenni digwyddiadau dan arweiniad ceidwaid. Rydym yn disgwyl y bydd yn barod erbyn mis Ebrill.” Mae gwybodaeth am Barc Gwepra ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/cefngwlad lle gallwch hefyd ddod o hyd i ddolen i dudalen Facebook Cyfeillion Parc Gwepra. Lluniau Geiriad yn 0017, Chwith ir Dde: Stephen Lewis (CSFf), Neil Dudley (Gwirfoddolwr), Phil Rodgers (Gwirfoddolwr), Mike Goodall (Cadeirydd, Cyfeillion Parch Gwepra), Julie Gallagher (Ysgrifennydd, Cyfeillion Parc Gwepra), Tim Johnson (CSFf).