Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pythefnos Masnach Deg yn Sir y Fflint

Published: 05/03/2015

Fel rhan o bythefnos Masnach Deg, rhwng 23 Chwefror ac 8 Mawrth, mae Sir y Fflint yn dathlu deng mlynedd ers sicrhau statws Sir Masnach Deg. Ym mis Rhagfyr 2003, cefnogodd Pwyllgor Gweithredol Cyngor Sir y Fflint benderfyniad grwp o bobl i geisio sicrhau statws Masnach Deg i Sir y Fflint. Eleni, bydd degawd wedi mynd heibio ers i’r sir ennill  statws Masnach Deg, statws y mae angen ei hadnewyddu bob dwy flynedd. Dyfarnwyd statws Masnach Deg i Gynghrair Masnach Deg Sir y Fflint am hyrwyddo cynnyrch a brynir yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr mewn gwledydd sy’n datblygu.  Maer Cyngor Sir yn rhan o’r Gynghrair honno ac mae’n gweini te a choffi Masnach Deg ym mhob un o’i gyfarfodydd. Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin: Mae Cynghrair Sir y Fflint yn annog pawb i gefnogi Masnach Deg ac i werthu neu weini cynnyrch Masnach Deg. Nid elusen yw Masnach Deg, yn hytrach mae’n caniatáu i bobl helpu eu hunain drwy gael pris teg a rhesymol am eu cynnyrch.  Maer cynhyrchion o safon uchel, ac maent ar gael yn y rhan fwyaf o siopau’r Stryd Faw. Maent yn cynnwys te, siwgr, coffi, siocled, gwin a bananas. Mae marc Masnach Deg ar gynnyrch yn gwarantu: -y bydd ffermwyr yn cael pris teg a sefydlog am eu cynnyrch syn helpu i liniaru tlodi -incwm ychwanegol i ffermwyr a gweithwyr ar blanhigfeydd i wella’u bywydau drwy ddarparu cyflenwadau dwr ac ysgolion i blant - mwy o barch ir amgylchedd - mae llawer o’r cynhyrchion yn cael eu tyfu drwy ddefnyddio dulliau organig -y bydd ffermwyr mewn sefyllfa gryfach ym marchnadoedd y byd gan fod y rhaglen yn eu helpu nhw i helpu eu hunain -na fydd yr un plentyn wedii orfodi i weithio i greur cynnyrch