Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai am ddim i yrwyr hyn

Published: 10/03/2015

Mae gyrwyr hyn yn Sir y Fflint yn cael cyfle i feithrin eu sgiliau gyrru au hyder ymhellach drwy gymryd rhan mewn sesiwn gyrru rhad ac am ddim. Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnig sesiwn gyrru am ddim i breswylwyr syn 65 oed a hyn, i’r rhai y gall fod angen peth cefnogaeth arnynt â meithrin hyder yn eu gyrru. Bydd gweithdy rhad ac am ddim yn cael ei gynnal ddydd Mercher 18 Mawrth am 1.30pm yng Ngwestyr Springfield ym Mhentre Helygain, Treffynnon, i annog gyrwyr i drefnu sesiwn gyrru rhad ac am ddim. Mae profiad gyrru yn hynod o bwysig ac mae ymchwil yn dangos bod rhai gyrwyr hyn yn osgoi sefyllfaoedd lle maent yn gwybod eu bod yn teimlon bryderus – gall y rhain gynnwys gyrru yn ystod y nos, trefi prysur, ffyrdd cyflym a thywydd gwael, ond nid yw bob amser yn bosibl osgoir rhain drwyr amser, yn enwedig ar ffyrdd gwledig. Mae sesiwn gyrru AM DDIM Sir y Fflint i rai dros 65 oed yn ffordd y gall gyrwyr hyn wella eu sgiliau gyrru. Mae hyfforddwyr Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru yn cynnig awgrymiadau defnyddiol ar sut i addasu eich arddull gyrru wrth i chi fynd yn hyn, gan eich helpu ich cadw chi a defnyddwyr eraill y ffordd yn ddiogel, ac i gadw pobl y tu ôl ir llyw am gyfnod hwy. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Byddwn yn annog ein preswylwyr dros 65 oed i fanteisio ar y cyfle hwn i gael sesiwn yrru am ddim. Wrth i ni fynd yn hyn, efallai y byddwn yn profi newidiadau a all effeithio ar sut rydym yn gyrru. Maer rhain yn cynnwys y posibilrwydd o amseroedd ymateb yn arafu, gall gymryd hirach i wneud penderfyniadau, a gall gyrru fod yn fwy blinedig ac yn straen. Mae rhai gyrwyr yn sylwi ar y newidiadau hyn mor gynnar â phan fyddant yng nghanol eu pumdegau. Wrth iddynt fynd yn hyn, gall y rhan fwyaf o bobl barhau i yrrun ddiogel a heb broblemau, ond mae hyn yn haws iw wneud gyda rhywfaint o help gan yrrwr proffesiynol. “Cynhaliwyd gweithdy i dros 30 o breswylwyr dros 65 oed yn Clwyd Theatr Cymru y mis diwethaf, ac roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn ac mae 18 yn rhagor o sesiynau gyrru wedi eu trefnu o’r Gweithdy.” I archebu, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch âr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd, ar 01352 704498. Capsiwn Gyrwyr hyn mewn gweithdy gyda Claire Parry a Lee Shone, Diogelwch ar y Ffyrdd a Barry Dunn, Hyfforddwr Gyrru Uwch