Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cylchfan Queensferry

Published: 05/03/2015

Bydd Cyngor Sir y Fflint cyn bo hir yn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru drwyr Gronfa Trafnidiaeth Lleol ar gyfer cynllun i wella Cylchfan Queensferry a chyffordd goleuadau traffig Asda gerllaw, sydd ar hyn o bryd yn arwain at oedi hir yn ystod cyfnodau prysur. Bydd y cynnig hwn yn ategu cynllun Cydamseru Goleuadau Traffig Coridor Glannau Dyfrdwy a gwblhawyd yn ddiweddar ac sydd wedi gwella llif trafnidiaeth yn sylweddol ar hyd Coridor Glannau Dyfrdwy’r A548. Bydd datblygiadau yn ardal Glannau Dyfrdwy, fel Datblygiad Porth y Gogledd, yn cynyddu llif trafnidiaeth y gyffordd bwysig hon ymhellach, gan roi straen ychwanegol ar y rhwydwaith ac arwain at oedi anochel i ddefnyddwyr y ffordd. Mae arolwg ac astudiaeth ddichonoldeb lawn wedi ei chynnal syn argymell ail-lunio’r cynlluniau presennol er mwyn darparu gallu ychwanegol i ddelio âr gofynion traffig presennol ar gofynion yn y dyfodol Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Maer cynllun hwn wedi ei nodi fel blaenoriaeth ar gyfer Cyngor Sir y Fflint yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a gyflwynwyd yn ddiweddar yng ngogledd Cymru, ac rydw i’n gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogir cais a chydnabod bod gwella’r gyffordd allweddol hon yn hanfodol i gryfhau rhwydwaith priffyrdd un o byrth allweddol gogledd Cymru ac un a fydd yn cefnogi’r twf economaidd a ragwelir yn yr ardal hon”.