Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi casglu gwastraff diwygiedig y Cyngor yn anelu at wella perfformiad a lleihau costau

Published: 09/03/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn adolygu ei bolisi casglu gwastraff presennol i wella ei berfformiad a sicrhau arbedion hanfodol. Hoffair Cyngor ddiolch i drigolion Sir y Fflint am y lefel o ailgylchu a gesglir trwy gasgliadau ymyl y ffordd wythnosol sydd wedi golygu bod y sir yn y chwartel uchaf yng Nghymru. Mae ffigyrau cyfredol ar gyfer 2015/16 yn dangos cyfradd ailgylchu gyffredinol o 58%, syn flwyddyn eithriadol i Sir y Fflint. Er mwyn sicrhau bod perfformiad yn parhau i wella a hefyd i gyflwynor mesurau arbedion ariannol hanfodol sydd eu hangen fel rhan o her y Cyngor Sir i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd gwerth £18+miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, maer polisi yn cael ei adolygu i gyflwyno nifer o newidiadau, yn y meysydd canlynol: Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) Ar hyn o bryd maer Cyngor yn darparu saith Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) ar draws y Sir. Maer CAGC yn ategu ein gwasanaethau casgliad ymyl y ffordd ond maent yn rhan or gwasanaeth lle mae perfformiad ailgylchu yn is nar cyfartaledd cenedlaethol. Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff mwy o faint y Cyngor yn perfformion llawer gwell nar rhai sydd â lle cyfyngedig gan y gallant gynnig mwy o gyfleoedd ailgylchu. Nid yw rhai o safleoedd presennol y Cyngor yn ddigon mawr i ddarparu gwasanaeth llawn ac, mewn ymdrech i wella perfformiad cyffredinol drwy gyfeirio defnyddwyr at y safleoedd mwy, maer Cyngor Sir wedi gwneud penderfyniad i gau Canolfan Ailgylchu’r Hob, sef y safle syn perfformio waethaf gydar nifer lleiaf o ymwelwyr. Ar yr un sail y bydd Canolfannau Ailgylchu Cei Connah a’r Fflint ar agor tridiau’r wythnos yn unig yn y dyfodol i adlewyrchur adegau pan fydd y safleoedd yn cael eu defnyddio fwyaf. Bydd y safleoedd syn weddill yn yr Wyddgrug, Bwcle, Sandycroft a Maes-glas yn gweld mwy o staff, a’u rôl fydd hyrwyddo ethos ailgylchu’n gyntaf. Bydd sgipiau ailgylchu ychwanegol yn cael eu cyflwyno i gymryd ller sgipiau gwastraff cyffredinol, gan y bydd yr holl wastraff ddaw i’r CAGC yn cael eu harchwilio er mwyn sicrhau bod yna fwy yn ailgylchu. Bydd y cynllun trwydded fan presennol yn cynnwys rheolau llymach. Casgliadau biniau a fethwyd Maer Cyngor Sir yn cynnal 264,000 o gasgliadau gwastraff ac ailgylchu bob wythnos. Yn anochel bydd nifer fechan o gasgliadau’n cael eu methu. Gall y rhain naill ai gael eu methu gan y criw casglu, ond mae llawer oherwydd nad yw trigolion wedi rhoi eu gwastraff allan ar amser. Maer gost o ddychwelyd ar gyfer y biniau hyn yn £150,000 y flwyddyn. O 1 Mai eleni, bydd trefniadau newydd yn eu lle. Bydd y rhain yn cynnwys cyflwyno is-fformon’ ar bob prif rownd casglu, a’u cyfrifoldeb fydd cofnodi pob ffordd neu stryd yn electronig unwaith y bydd y casgliad gwastraff wedi cael ei gwblhau. Ni fydd y Cyngor Sir bellach yn dychwelyd ar gyfer casgliadau y rhoddwyd gwybod eu bod wedi’u methu unwaith y cofnodwyd bod y stryd honno wedi’i chwblhau. Gofynnir i drigolion ddefnyddior Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref agosaf neu roi eu gwastraff allan ar y diwrnod casglu arferol nesaf. Gwasanaeth Gwastraff Gardd Gan nad oes dyletswydd statudol i ddarparu Casgliad Gwastraff Gwyrdd, mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr nawr yn codi tâl ar eu preswylwyr ar gyfer casglu pob gwastraff gardd. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gasglu un bin brown. Fodd bynnag, ar gyfer unrhyw finiau ychwanegol gan drigolion, bydd tâl blynyddol yn cael ei gyflwyno o fis Mai eleni. Yn ogystal, bydd y Cyngor yn lleihau ei ffenestr casglu ar gyfer gwastraff gardd rhwng 1 Mawrth a 30 Tachwedd, gan nad yw llawer or trigolion yn defnyddior gwasanaeth dros gyfnod y gaeaf. Ni fydd unrhyw newidiadau yn amlder y casgliadau bin du, ailgylchu a bwyd. Casgliadau gwastraff swmpus Ar hyn o bryd maer Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ??syn costio tua £200,000 y flwyddyn. Codir tâl bychan o £15 ir cwsmer, i gasglu hyd at bum eitem, gyda thrigolion ar fudd-daliadau a phensiwn yn derbyn y gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Ar hyn o bryd maer Cyngor yn penderfynu a ddylid rhoi’r gorau i’r gwasanaeth atodol a chynyddu taliadau i adlewyrchu gwir gost y gwasanaeth. Amnewid cynwysyddion ailgylchu Maer Cyngor Sir wedi mynd a chynwysyddion ailgylchu newydd yn uniongyrchol at ddrws y trigolion yn y gorffennol. O 1 Mai, bydd cynwysyddion, megis y bocs glas ar bagiau ailgylchu, yn dal i gael eu darparu yn rhad ac am ddim, ond bydd angen i breswylwyr eu casglu o rwydwaith o safleoedd ar draws y Sir. Bydd danfoniadau uniongyrchol at y drws yn parhau ar gyfer y rhai a gofrestrwyd fel rhai sydd angen casgliad a gynorthwyir, yn ogystal â dosbarthu biniau olwyn brown a du. Casgliadau 7 diwrnod Yn ystod yr haf, maer Cyngor yn bwriadu cynyddu nifer y casgliadau o dai ar ddydd Sadwrn, ynghyd â nifer fach o eiddo gwledig yn cael casgliadau ar ddydd Sul. Mae hyn yn dilyn lansio casgliadau chwe diwrnod ar gyfer gwastraff ac ailgylchu ym mis Tachwedd 2011. Maer gwasanaeth wedi cael derbyniad da gan drigolion yn yr ardaloedd lle mae wedi cael ei gyflwyno. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Rydym yn ddiolchgar iawn in preswylwyr sy’n parhaun ymrwymedig i ailgylchu eu gwastraff. Fel gyda nifer o bolisïau Strydwedd, maer Polisi Casglu Gwastraff yn cael ei adolygu fel rhan on her i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd gwerth £18+miliwn yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Cytunwyd ar y diwygiadau fel rhan or cynigion gosod cyllideb. Unwaith y bydd y newidiadau hyn yn eu lle maer Cyngor yn disgwyl i berfformiad ailgylchu gynyddu a chryfhau ein esefyllfa fel awdurdod blaenllaw yng Nghymru. Fel rhan or broses graffu, bydd cynghorwyr sir, tref a chymuned yn trafod y polisi drafft diwygiedig mewn gweithdai syn cael eu cynnal yn fuan yn yr wythnos. Yna, bydd yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet ym mis Ebrill 2015.