Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pythefnos Gofal Maeth 2014
Published: 13/05/2014
Gan fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn brysurach nag erioed ac, ar gyfartaledd,
un plentyn y dydd yn cael ei dderbyn i mewn i ofal bob 20 munud ym Mhrydain,
mae’r gwasanaethau maethu o gwmpas y wlad yn ymuno â’i gilydd ar gyfer
Pythefnos Gofal Maeth™ 2014 rhwng dydd Llun 12 a dydd Sul 25 Mai, i annog mwy o
deuluoedd lleol i gynnig cartref cariadus a gofalgar i blentyn.
Mae Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yn cynnal noson wybodaeth nos Fercher 14 Mai
yng Ngwesty ‘Gateway to Wales’ Days, Glannau Dyfrdwy am 7pm i unrhyw un sy’n
ystyried bod yn ofalwr maeth.
Mae gofalwyr maeth o Sir y Fflint, Andrew ac Amanda o Dreffynnon, wedi bod yn
maethu ers blwyddyn ac wedi gofalu am 10 plentyn yn y cyfnod hwnnw. Am un noson
yn unig roedd un o’u plant maeth cyntaf i fod i aros, ond newidiodd y sefyllfa
ac mae bellach yn rhan o’u teulu.
Dywedodd Amanda: “Rydym yn deulu arferol, hapus a bywiog. Roeddem eisiau rhoi
rhywbeth yn ôl a gwneud rhywbeth gwahanol. Mae’n gyffrous pan mae’r ffôn yn
canu. Gall y plant fod yn eithaf nerfus wrth gyrraedd, yn cyfarfod â phobl
newydd. Maen nhw’n aros yn eu hystafell wely ac mae’n cymryd amser iddyn nhw
ddod allan o’u cragen, ac iddyn nhw ymddiried ynoch chi a siarad â chi. Nid
yw’n digwydd dros nos.”
“Fe wnaethom ymroi’n gyflym iawn ac nid ydym ni byth wedi edrych yn ôl, ond mae
llawer o gefnogaeth. Rydym ni wedi cyfarfod â rhai gofalwyr maeth hyfryd sydd
wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd, a gallwch ofyn unrhyw beth iddyn nhw.”
“Mae’r gwobrau’n syml; gwên neu chwerthiniad, a phan mae’r plant yn teimlo’n
gyfforddus a diogel yma.
Yn achos llawer o’r plant, rydym yn cael galwad ffôn i ddweud eu bod nhw’n
dod, ac mae’n rhaid i ni roi trefn ar bethau’n gyflym. Mae’n rhaid i chi ddweud
‘na’ weithiau hefyd, os nad ydych yn teimlo cysylltiad â’r plentyn neu os yw’n
rhywbeth na allwch ymdopi ag ef.”
Mae Matthew, 16 oed, wedi cael ei faethu gan y cwpwl ers 11 mis, ac mae’n
astudio adeiladu yn y coleg. Mae’n dangos y drefn i’r plant maeth newydd wedi
iddynt gyrraedd, ac yn dweud wrthynt beth yw rheolau’r ty.
Dywedodd Matthew: “Roedd yn rhyfedd pan gyrhaeddais yma gyntaf. Nid oeddwn yn
gwybod i ble’r oeddwn i’n mynd. Ond mae fel cartref nawr. Ni allaf gyfleu mewn
geiriau yr hyn maen nhw wedi’i wneud i fi. Rwy’n ffodus iawn cael bod gyda nhw.
Maen nhw wedi gwneud llawer i mi ac wedi rhoi llawer o gefnogaeth i mi.”
Mae ganddo ychydig o gyngor i unrhyw un sy’n ystyried maethu: “Byddwch yn chi
eich hun, a gwrandewch ar y plant pan maen nhw’n barod i siarad. Mae angen
llawer o amynedd arnoch. Peidiwch â barnu’r plant yn ôl eu cefndir, crewch eich
argraff gyntaf eich hun.”
I gael mwy o wybodaeth am faethu a’r noson wybodaeth, ffoniwch 01352 702190 neu
ewch i www.flintshire.gov.uk/foster
Llun: Gofalwyr maeth Andrew ac Amanda.