Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Goleuadau Stryd y Cyngor

Published: 09/03/2015

Yr wythnos hon (yn dechrau dydd Llun 9 Mawrth) bydd y Cynghorwyr yn trafod polisi goleuadau stryd diwygiedig, sy’n ceisio darparu’r gwasanaeth mwyaf cost effeithiol ac effeithlon a lleihau ôl-troed carbon y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen ar, ac yn cynnal a chadw, dros 21,000 o oleuadau stryd a 3,250 o arwyddion goleuedig ar draws y sir. Mae hefyd yn cynnal goleuadau cefnffyrdd ar ran Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, maer holl unedau hyn yn defnyddio gwerth £864,000 o drydan y flwyddyn. Maer gwasanaeth goleuadau stryd wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed carbon drwy roi ystod o fesurau ar waith, gan gynnwys gosod cyfarpar arbed ynni ac unedau goleuo ynni isel pan fo angen newid y goleuadau. Bydd y polisi drafft diwygiedig yn ymestyn y mesur diffodd goleuadau stryd yn y nos - gyda chynigion i ddiffodd goleuadau stryd mewn ardaloedd dibreswyl penodol rhwng hanner nos a 5am ac mewn ardaloedd preswyl penodol rhwng hanner nos a 6am. Bydd amseroedd ymateb safonol ar gyfer atgyweirio goleuadau stryd Cyngor Sir y Fflint yn newid i 10 diwrnod gwaith. Yr eithriad i hyn yw lleoliadau sydd wedi eu hasesu fel ardaloedd diamddiffyn (er enghraifft safleoedd tai gwarchod, teledu cylch cyfyng a safleoedd critigol diffiniedig eraill), lle bydd yr amser safonol yn parhau’n dri diwrnod gwaith. Yn ogystal â darparu effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon, disgwylir i’r mesurau hyn arbed £50,000 y flwyddyn ar ôl eu rhoi ar waith yn llawn. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Nod cyffredinol polisi goleuadau stryd y Cyngor yw rheoli a chynnal rhwydwaith goleuadau stryd diogel ac effeithlon syn sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd, cerddwyr a beicwyr. Mae hefyd yn cydnabod bod rhwydwaith goleuadau stryd effeithlon yn un or ffyrdd y gall y Cyngor chwarae rhan bwysig i leihau troseddau, gwella ymddygiad gyrwyr a hyrwyddo cymuned ddiogelach. “Maer polisi yn cael ei adolygu fel rhan on her i ganfod arbedion ar draws y Cyngor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a chytunwyd ar y cynlluniau i leihau adnoddau goleuadau stryd a chyflwyno goleuadau stryd rhannol yn y nos fel rhan o’r cynigion ar gyfer y gyllideb. Fel rhan or broses graffu, bydd cynghorwyr sir, tref a chymuned yn trafod y diwygiadau mewn gweithdai ddechrau’r wythnos. Bydd y polisi diwygiedig yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet ym mis Ebrill 2015.